Sut i ymweld yn ddiogel
Bwriedir ailagor manwerthu nad yw’n hanfodol ddydd Llun 12 Ebrill. Bwriedir ailagor lletygarwch ddydd Llun 26 Ebrill.
Lefelau rhybudd COVID-19
Mae siopau Casnewydd sy'n darparu nwyddau nad ydynt yn hanfodol bellach yn gallu agor, gan groesawu cwsmeriaid yn ôl.
Mae'r sector twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru yn paratoi i groesawu ymwelwyr yn ôl gan ailagor caffis, tafarndai a bwytai yn raddol o 13 Gorffennaf ymlaen.
Bydd canol dinas Casnewydd yn elwa ar rai newidiadau i’w ardaloedd i gerddwyr. I gefnogi’r angen i gadw pellter cymdeithasol a gwella diogelwch ymwelwyr, mae atalfeydd ychwanegol yn cael eu gosod ar adegau allweddol i gynyddu’r ardaloedd sydd i gerddwyr yng nghanol y ddinas.
Gweler map o’r newidiadau yng nghanol y ddinas yma.
I sicrhau eich diogelwch eich hun a phobl eraill, dilynwch y canllawiau isod.
Sut i ymweld yn ddiogel
Mae gorchuddion wyneb yn orfodol mewn mannau cyhoeddus dan do, fel siopau. Does dim rhaid i blant dan 11 oed na phobl â chyflyrau iechyd wisgo un.
Bydd angen gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do, ar gyfer cwsmeriaid a staff sy'n gweithio yn yr ardaloedd cyhoeddus dan do hynny. Mae hyn yn cynnwys ystod eang iawn o leoliadau, fel siopau a chanolfannau siopa, addoldai, siopau trin gwallt a salonau, sinemâu ac amgueddfeydd, campfeydd a chanolfannau hamdden, ac unrhyw le sy'n agored i’r cyhoedd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.