Presgripsiwn Llyfrau Cymru
Mae Presgripsiwn Llyfrau Cymru yn cynnig llyfrau hunan-gymorth dethol i bobl sydd â phroblemau emosiynol cymedrol.
Yn aml gall llyfrau helpu pobl i ymdopi â phroblemau emosiynol
Mae rhestr o’r llyfrau dethol gan feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol ac fe allan nhw argymell cyfrol i glaf a all wedyn fynd a manylion y gyfrol a argymhellwyd i’r llyfrgell.
Does dim rhaid bod yn aelod ar hyn o bryd
Os nad ydych yn aelod, mae’n bosib y gofynnir i chi lenwi ffurflen aelodaeth.
Os yw’r gyfrol ar fenthyg i ddarllenydd arall fe gawn gopi o lyfrgell arall i chi.
Gellir benthyg y gyfrol am, rhwng pedair ac wyth wythnos a gellir ei hadnewyddu.
Gweler Taflen Wybodaeth Presgripsiwn Llyfrau Cymru y GIG
Gweler Rhestr Lyfrau Presgripsiwn Llyfrau Cymru (2011)
Gellir defnyddio llyfr hunan-gymorth ar ben unrhyw feddyginiaeth a ragnodwyd, neu tra bo’r claf yn aros i weld cwnselydd neu arbenigwr iechyd meddwl.
Efallai na fydd y dull hwn yn gweddu i bawb nac ychwaith yn effeithiol bob amser, ond bellach ceir tystiolaeth dda i ddangos y gall llyfrau helpu yn aml.