Plant a Phobl Ifanc
Croesewir plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn Llyfrgelloedd Casnewydd.
Bydd staff llyfrgell yn helpu ac yn rhoi cymorth i’ch teulu i garu llyfrau, straeon ac i ddod o hyd i wybodaeth.
Nod Dechrau Da yw rhoi pecyn gwybodaeth a llyfrau am ddim i bob babi yng Nghymru.
Yng Nghasnewydd rhoddir y pecyn babi i gofrestryddion a’ch ymwelydd iechyd.
Gall plant rhwng 0-4 oed gasglu sticeri bob tro y maen nhw’n ymweld â’u llyfrgell leol a phan fyddant wedi casglu 4 byddant yn derbyn tystysgrif wedi’i dylunio gan ddarlunydd llyfrau plant.
Sesiwn wythnosol am ddim yn ystod y tymor i blant oed cyn-ysgol a’u gofalwyr
Llyfrau i helpu plant a phobl ifanc ymdrin â materion emosiynol a rhoi arweiniad ychwanegol – mae’r holl deitlau ar gael o Lyfrgelloedd Casnewydd.
Sicrhau bod plant yn mwynhau codio o oed cynnar…
Mae’r Goeden Ddarllen wedi'i chreu i'ch helpu i ddewis o leiaf un llyfr y mis i chi eu rhannu â'ch plentyn dros bum mlynedd cyntaf ei fywyd.
Cyfleoedd creadigol i blant sydd â thalent anhygoel mewn ysgrifennu creadigol neu sy’n angerddol dros ddarllen a dweud straeon ac sydd wedi’u henwebu gan yr ysgol.
Eleni rydym yn gofyn i deuluoedd gymryd rhan yn Sialens Ddarllen Fach y Gaeaf.
Gwyddom fod darllen er pleser yn bwysig i ddatblygiad plant, felly rydym am annog teuluoedd i ddarllen a chael hwyl gyda'i gilydd drwy gydol y gaeaf.