COVID 19: mae'r llyfrgelloedd canlynol ar agor ar gyfer ymweliadau a drefnwyd yn unig.
Y Llyfrgell Ganolog: ar agor Mawrth - Gwener, 10am-12.30pm ac 1pm-4pm.
Llyfrgell Malpas: ar agor Llun, Mawrth, Mercher a Gwener, 10am-1pm a 2pm-4pm
Llyfrgell Ringland: ar agor Llun, Mercher, Iau a Gwener, 10am-1pm a 2pm-4pm
Llyfrgell Tŷ-du: ar agor Llun, Mawrth, Iau a Gwener, 10am-1pm a 2pm-4pm
Mae ein llyfrgelloedd eraill yn dal i fod ar gau. Rydym yn gobeithio gallu eu hailagor yn fuan.
Rhaid trefnu ymweliadau ymlaen llaw a hynny am 15 munud gydag uchafswm o ddau berson fesul archeb.
Whilst a Tier 4 Level Alert is in place libraries will be operating a click and collect service only. From 20th December you can reserve books online and then book a visit to the library to collect them but no browsing will be available.
Gallwch gadw llyfrau ar-lein ac yna drefnu ymweliad â'r llyfrgell i'w casglu.
Bydd detholiad bach o lyfrau ffuglen sydd ddim ar gadw ar gael yn y llyfrgell i bobl gael pori.
Bydd benthyciadau llyfrau presennol yn cael eu hymestyn. Cadwch fenthyciadau presennol gartref nes bod y sefyllfa'n gwella, os gwelwch yn dda.
Mae ffioedd a thaliadau hwyr wedi eu hatal o hyd.
Archebu a chasglu
Cadwch lyfr gan ddefnyddio catalog ar-lein Llyfrgelloedd Casnewydd.
Byddwn yn e-bostio pan fydd eich llyfrau’n barod i'w casglu ac yna gallwch wneud apwyntiad i ymweld a chasglu'r llyfrau.
Mae unrhyw archebion presennol wedi dod i ben, felly bydd yn rhaid i chi wneud archebion newydd.
Eich ymweliad
Golchwch eich dwylo cyn ac ar ôl eich ymweliad, efallai y byddwch yn dymuno dod â'ch menig eich hun gan na fydd hylif diheintio dwylo'n cael ei ddarparu.
Yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd pob llyfr a ddychwelir yn cael ei roi mewn cwarantîn 72 awr i leihau'r risg o groeshalogi.
Ni fydd mynediad i gyfrifiaduron na chyfleusterau argraffu / llungopïo.
Ni fydd y casgliad Astudiaethau Lleol a Chyfeirio ar gael.
Bydd silffoedd llyfrau ar gau ac nid ydynt ar gael ar gyfer pori.
Cofiwch, mae ystod eang o e-lyfrau ac e-gylchgronau ar gael i aelodau'r llyfrgell gartref.
Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth wrth i ni weithio i ddod â'ch gwasanaethau llyfrgell yn ôl yn ddiogel.
TRA123545 11/08/2020