Holiday Inn

Holiday Inn Reception

Harpers yw’r bar a’r bwyty cynllun agored yn y gwesty, sy’n cynnig pedair bwydlen i westeion.

Lluniwyd y fwydlen a la Carte i gynnig prydau Cymreig traddodiadol ochr yn ochr â bwydydd o bob cwr o’r byd. Mae’r fwydlen bwffe poeth yn newid bob dydd, ac mae’n cynnig tri chwrs o ddetholiad gwych o brydau.

Os hoffech gael noson dawel yn eich ystafell, gallwch ddewis o’r fwydlen gwasanaeth ystafell, sydd ar gael 24 awr – ni fydd byth angen i chi deimlo’n llwglyd!

Os bydd chwaraeon ymlaen yn y lolfa, ni fydd angen i chi eu colli; beth am fwynhau pryd bar wrth wylio’r gêm fawr?

Cyfleusterau

  • Dewisiadau llysieuol
  • Dewisiadau fegan
  • Hygyrch i gadeiriau olwyn
  • Bwydlen i blant
  • Trwyddedig ar gyfer alcohol

Gwasanaeth bwyd

Bob dydd, 12.30-2pm a 6.30-9.30pm

Holiday Inn

Y Coldra, Chepstow Road, Casnewydd NP18 2YG           

Ffôn: +44 (0)1633 412777

Gwefan: www.holidayinn.com