The Green Caerleon

The Green

Ar Goldcroft Common yng Nghaerllion, mae tafarn draddodiadol wedi cael ei thrawsnewid i fod yn lolfa goffi a bwyty, a ddyluniwyd fel lle bwyta shabby-chic gyda naws hwyliog. 

Mae coffi a chacennau blasus i’w mwynhau, a chaiff y bwyd cartref ei baratoi ar y safle, gan gynnwys pitsas traddodiadol unigryw, a the prynhawn (trefnwch le ar gyfer hyn).

Mae mwy o le eistedd ar gael yn yr ardd gefn amgaeëdig a agorwyd yn ddiweddar, a gellir trefnu digwyddiadau preifat yn y lleoliad. 

Cyfleusterau

  • Trwyddedig ar gyfer alcohol
  • Bwydlen i blant
  • Dewisiadau llysieuol
  • Darperir ar gyfer anghenion dietegol eraill - gofynnwch!

Gwasanaeth bwyd

Dydd Llun – dydd Mercher, 9am - 4pm;
dydd Iau - dydd Sadwrn, 9am- 4pm a 7 - 9:30pm;
dydd Sul, o 10:30am (brecwast), a chinio 12 -3:30pm.

Lolfa Goffi a Bwyty The Green

Goldcroft Common
Caerllion 
NP18 1NG

Ffôn: +44 (0)1633 421614