Gwesty Hamdden y Celtic Manor

Steak on Six at The Celtic Manor

Gydag wyth o brofiadau coginiol unigryw yn cael eu cynnig yn y Celtic Manor, mae digon o ddewis i ymwelwyr o ran bwyta yn y gwesty arobryn hwn, a gynhaliodd Gwpan Ryder 2010.

Yn y gwesty pum seren, mae The Olive Tree & Garden Room, sy’n cynnig bwffe rhyngwladol ysblennydd gyda’r nos, a chinio jazz ar ddydd Sul, ac Epicur gan Richard Davies, sef lleoliad bwyta blaenllaw'r gwesty. Ar y chweched llawr, cewch hyd i’r bwyty Signature, Steak on Six, ac am newid, dewiswch rhwng The Grill yn y tŷ clwb, lle cewch fwyta mewn amgylchedd hamddenol gyda golygfeydd panoramig o’r cwrs golff, neu Rafters, sef y bwyty syfrdanol yn The Twenty Ten Clubhouse, sy’n cynnig steciau a chigoedd blasus wedi’u gridyllu.

Ychydig o filltiroedd i fyny’r nant, mae tafarn wledig Newbridge on Usk, sy’n cynnig bwyd sylweddol ac iach, sy’n cael ei greu gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau, ac mae The Rib Smokehouse and Grill, yng Ngwesty Coldra Court, sy’n agos iawn at Westy’r Celtic Manor ei hun. Neu, rhowch gynnig ar Cen, yn y Maenordy, lle gallwch ddarganfod bwyd cyfunol Asiaidd ffres, unigryw ac ysbrydoledig gan Larkin Cen, a gyrhaeddodd rownd derfynol MasterChef UK ar y BBC yn 2013.

Gwobrau

Dwy Roséd AA ar gyfer y bwyty Signature, Steak on Six

Achrediad y Ddraig Werdd

Gwasanaeth bwyd

Mae amserau’n amrywio, gweler y wefan i gael manylion

Cyfleusterau

Dewisiadau llysieuol

Dewisiadau fegan

Bwydlen i blant

Parcio

Hygyrch i gadeiriau olwyn

Trwyddedig ar gyfer alcohol

Gwesty Hamdden Celtic Manor

Coldra Woods
Casnewydd
NP18 1HQ
Ffôn: +44 (0)1633 413000

www.celtic-manor.com