COVID-19: All Newport City Council parks and playgrounds are now open.
Please follow social distancing guidance, the following areas remain closed:
- Public toilets and changing rooms
- Sports pitches (of any size or type) must only be used for general exercise, not for games/matches
It is important not to breach any fences, closed gates, sectioned off areas and closed park facilities. We appreciate your continued support.
Mae Parc Beechwood yn barc 30 erw â choed aeddfed ac ardaloedd chwarae gyda mynedfeydd ar Chepstow Road, Christchurch Road a Beechwood Road.
Mae Parc Beechwood yn ddeiliad Baner Werdd
Gweler lleoliad Beechwood Park
Oriau Agor
Mae Parc Beechwood yn agor am 7.30am.
Oriau Agor Parciau (pdf)
Os digwydd i’ch car gael ei gloi y tu mewn i’r maes parcio ar ôl yr oriau agor, cysylltwch â Newport Norse.
Caffi
Mae caffi ger Tŷ Beechwood.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae bysiau’n rhedeg ar hyd Chepstow Road a Christchurch Road ac yn stopio y tu allan i’r parc. Ewch i Trafnidiaeth Casnewydd i gael manylion.
Hanes
Adeiladwyd Tŷ Beechwood, adeilad rhestredig Gradd II, ym 1877-78 fel preswylfa breifat ar gyfer George Fothergill, gwneuthurwr tybaco a chyn-Faer Casnewydd ac, yn wreiddiol, y tiroedd preifat oedd y parc 30 erw.
Ym 1900, prynodd Cyngor Bwrdeistref Casnewydd Dŷ Beechwood ac agorwyd y tiroedd fel parc cyhoeddus. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, defnyddiwyd y tŷ fel cartref ymadfer.
Cafodd Tŷ Beechwood ei feddiannu gan luoedd America yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac wedyn cafodd ei ddefnyddio at nifer o ddibenion, gan gynnwys ysbyty trin tiwberciwlosis, ysgol awyr agored a chlwb rheilffyrdd model.
Cyfeillion Parciau Addurnol
Sefydlwyd Cyfeillion Parciau Addurnol Casnewydd yn 2006 i weithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i reoli parciau Fictoraidd Casnewydd.
Cyswllt
Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR
Ffôn: (01633) 656656
E-bost: info@newport.gov.uk
TRA116864 06/03/20