Gwlyptiroedd Casnewydd

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, Gwlyptiroedd RSPB Casnewydd, Trefonnen NP18 2BZ.

Cyf: Grid yr Arolwg OrdnansST 334 834  

Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol gyda sawl erw o gorsleoedd a gwlytiroedd wedi’u croesi gan lwybrau hawdd eu dilyn.

Mae amrywiaeth eang o rywogaethau adar yn defnyddio’r corsleoedd a’r fflatiau llaid i gael lloches, nythu a dod o hyd i fwyd, felly byddwch yn gweld llawer.

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys toiledau, caffi a siop.

Yr hyn sydd i’w weld

Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn fwyaf adnabyddus am eu hamrywiaeth o adar gwlyptir, o’r titw barfog â’i farciau hyfryd syn sefyll ar frig y cyrs i’r crëyr bach copog tlws yn pysgota yn y pyllau.

Yn yr hydref, gellir gweld y nico yn bwydo ar bennau hadau cribau'r pannwr ac mae gweld drudwy yn clwydo yn ystod yr hydref a’r gaeaf yn gallu bod yn olygfa bywyd gwyllt drawiadol gyda’r nos.

Yn yr aber, edrychwch i weld pa adar sy’n defnyddio’r fflatiau llaid helaeth – cadwch lygad am bibydd y mawn, y pibydd croesgoch neu biod y môr yn chwilota trwy’r llaid.

Ond nid yw’r gwlyptiroedd yn gartref i adar yn unig, felly cadwch eich llygaid ar agor i weld cachgwn bwm, gweision y neidr, ieir bach yr haf a gwyfynod yn ystod misoedd yr haf – efallai y byddwch yn gweld un o frodorion prin Casnewydd, y gardwenynen.

Gellir gweld nadredd y glaswellt yn torheulo ar ymyl llwybrau neu’n nofio ymysg y cyrs.

Mae’r warchodfa hefyd yn gartref i famaliaid megis moch daear, gwaddod, llygod y coed a dyfrgwn.

O ran planhigion, mae’r warchodfa hefyd yn gartref i lawer o rywogaethau o degeirianau, gan gynnwys y tegeirian gwenynog trawiadol.

Hanes

Agorwyd y warchodfa hon ger aber afon Wysg yn 2000 i wneud yn iawn am golli fflatiau llaid helaeth trwy greu Morglawdd Bae Caerdydd.

Mae’n ymestyn o Allteuryn i Aber-wysg a oedd unwaith yn dir diffaith dan orchudd llwch oherwydd pwerdy glo Aber-wysg gerllaw.  

Arwynebedd y warchodfa yw 4.38 cilometr sgwâr (438 hectar) ac mae’n cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd megis corsleoedd, morfeydd heli, morlynnoedd hallt a glaswelltir gwlyb iseldir.

Yn 2008 fe’i dynodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mynediad

Mae’r warchodfa ar agor bob dydd a gellir ymweld â hi am ddim. Caiff y maes parcio (£4 pob cerbyd- am ddim i aelodau'r RSPB) ei ddatgloi rhwng 9am a 5pm ac mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor rhwng 9:30am a 5pm.  

Mae gwasanaeth rhif 63 Bws Casnewydd i Whitson yn aros ym maes parcio’r warchodfa. Mae hwn yn wasanaeth sy’n ymateb i’r galw – i archebu cysylltwch â Bws Casnewydd ar 01633 211202.

Mae bron yr holl lwybrau o gwmpas y corsleoedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae meinciau rhyw bob 100 metr.

Mae’r llwybrau’n wastad â rhai llethrau graddol a ramp igam-ogam i ddringo’r pum metr i lefel y corsleoedd uchel.

Ceir rhai llwybrau uwchben y corsleoedd sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn trwy fod yn ofalus.  

Gellir llogi tri sgwter symudedd a dwy gadair olwyn am ddim gan ganolfan ymwelwyr yr RSPB. Argymhellir archebu ymlaen llaw trwy ffonio (01633) 636363.  

Caniateir cŵn mewn rhai rhannau yn unig o’r warchodfa a rhaid eu cadw ar dennyn bob tro. Gellir casglu map o’r ganolfan ymwelwyr.  

Mae’r Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy’r warchodfa.

Addysg

Mae gan yr RSPB raglen addysg a gynhelir gan athrawon maes ar gyfer grwpiau ysgol ac ieuenctid sy’n ymweld, gyda sesiynau ar amrywiaeth o bynciau’r cwricwlwm.

Rhaid trefnu’r ymweliadau hyn ymlaen llaw – ffoniwch y tîm addysg ar (01633) 636363.

Diogelwch

Mae rhannau o’r warchodfa lle ceir dŵr dwfn, felly cadwch at y llwybrau a’r llwybrau bordiau.