Bryngaer Croes Trelech

Gaer Fort

Bryngaer Croes Trelech, Bassaleg Road NP20 3PX.

Cyf. Grid yr Arolwg Ordnans:ST 288 869  

Mae Bryngaer Croes Trelech yn fryngaer o Oes yr Haearn mewn safle uchel sy’n edrych dros Fôr Hafren, wedi’i hamddiffyn ar un ochr gan Afon Ebwy.

Mae golygfeydd eang o’r brig ar ddiwrnod clir a chan fod y safle’n unig rostir sy’n weddill yng Nghasnewydd, mae’n gynefin diddorol i’w fforio.

Yr hyn sydd i’w weld

Ar ddiwrnod clir, mae i’r gaer (neu y ‘Gollars’ fel y’i hadwaenir yn lleol) olygfeydd dros Gasnewydd, Caerdydd a Môr Hafren. 

Mae’r llethrau rhedyn yn rhoi microhinsawdd gynnes y mae llawer o ymlusgiaid ac anifeiliaid di-asgwrn cefn yn ei mwynhau.

Mewn rhai ardaloedd mae gormod o redyn, felly maent yn cael eu rheoli’n flynyddol.

Mae darnau bach o rostir gyda grug a llus lle y gellir gweld planhigion sy’n tyfu’n dda mewn pridd sur megis briwydd y rhostir a’r rhwyddlwyn meddygol. 

Mae glaswelltir a rhostir sur yn brin yng Nghasnewydd, felly mae’r cynefinoedd hyn yn arbennig o bwysig. 

Ar ddiwrnodau cynnes heulog, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld nadredd defaid a madfallod yn torheulo mewn mannau agored.

Hefyd mae llawer o ystlumod yn defnyddi’r gaer fel cynefin i chwilota am fwyd, ac mae dros 300 math o wyfynod wedi cael eu cofnodi.

Mae mamaliaid megis chwistlod, llygod y dŵr, gwaddod a chadnoid yn gyffredin, a gellir clywed adar megis yr ehedydd, gyda’i gân hyfryd.  

Y twmpathau yn y mannau glaswelltir agored yn dwmpathau morgrug y weirglodd felen ac mae’r rhain yn dangos nad yw’r safle wedi cael ei reoli o gwbl a fyddai wedi newid strwythur y pridd, sy’n golygu ei fod yn laswelltir hynafol o ddiddordeb arbennig.

Hanes

Adeiladwyd Bryngaer Croes Trelech gan y Celtiaid yn yr Oes Haearn (tua 750 CC-43 OC).

Byddai wedi bod mewn safle pwerus iawn ar y pryd, gan sefyll rhwng y ffordd i Afon Wysg i’r dwyrain ac Afon Ebwy i’r gorllewin.

I’r de-orllewin, efallai byddwch yn gallu gweld bryngaer arall, sef Graig-y-Saeson, a chredir ei bod yn rhan o rwydwaith o gaerau yn yr ardal hon. 

Ar un adeg, roedd y fryngaer yn rhan o’r tiroedd a oedd ym mherchnogaeth y teulu Morgan o Dredegar ac yn yr 17eg ganrif cafodd ei hymgorffori i dirwedd ‘Y Parc’ oedd o amgylch ystâd y teulu Morgan yn Nhŷ Tredegar. 

Mynediad

Mae’r brif fynedfa i Fryngaer Croes Trelech i ogledd y safle, ger Bassaleg Road, ac mae lle yma i gar neu ddau barcio.

Hefyd mae llawer o fannau mynediad i gerddwyr ar hyd ochr ddwyreiniol y safle o ystâd y gaer (ger Shakespeare Crescent).

Mae mynediad rhydd dros y safle i gyd ond gellir dilyn nifer o lwybrau lle mae gwair wedi’i dorri os dymunwch chi – mae’r llwybrau hyn yn anwastad, yn serth ac yn fwdlyd mewn mannau.  

Mae Taith Gerdded Dyffryn Sirhywi, sy’n llwybr pellter hir o 26 milltir, yn croesi’r gaer o Bassaleg Road ac yn ymuno â Shakespeare Crescent ar ei ffordd i Dŷ Tredegar.    

Mae gwasanaethau Bysiau Stagecoach 50 (Aberbargod-Casnewydd) a 151 (Coed-duon – Casnewydd) yn gollwng ar hyd Bassaleg Road, ac mae gwasanaeth 2A a 2C yn teithio ar hyd Shakespeare Crescent.  

Addysg

Gan fod Bryngaer Croes Trelech yn un o’r enghreifftiau gorau o fryngaer o Oes yr Haearn yng Nghymru (a chredir mai dyma un o’r aneddiadau Celtaidd gwreiddiol yn ne Cymru), mae’n safle hanes byw rhagorol. 

Nid oes cylch boncyffion ym Mryngaer Croes Trelech, ond mae mynediad agored iddi drwy’r flwyddyn ac felly mae croeso i ysgolion a grwpiau eraill fforio’r safle pryd bynnag a fynnant.  

Diogelwch

Gall y llwybrau lle mae’r gwair wedi’i dorri fod yn anwastad, yn llithrig ac yn fwdlyd.

Mae gweddillion caeadleoedd y fryngaer, gyda chloddiau a ffosydd, wedi gadael disgyniadau serth mewn rhai mannau.