Llysiau'r Dial

Japanese knotweed credit Natural Resources Wales_May2019

Mae llysiau’r dial yn chwyn niweidiol ac ymledol. 

Dylid taenu chwynladdwr priodol ar lysiau’r dial ar ddiwedd yr haf, a dim ond os nad oes unrhyw opsiwn arall y dylid ei dorri. 

Peidiwch â gadael llysiau’r dial wedi’u torri ar y llawr na’i gompostio, oherwydd bydd yn ehangu. 

Ni ddylech roi llysiau’r dial yn eich bin gwastraff gardd na mynd ag ef i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) gan y bydd yn lledaenu ac yn halogi ardaloedd eraill.

Os yw llysiau’r dial yn dod i’r amlwg ar dir sy’n eiddo i’r cyngor, byddwn yn taenu’r ardaloedd perthnasol ar ddiwedd yr haf.

Dylai tenantiaid Cartrefi Dinas Casnewydd gysylltu â Chartrefi Dinas Casnewydd i gael cyngor os ydynt yn credu bod llysiau’r dial ar eiddo Cartrefi Dinas Casnewydd.

Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am Lysiau'r Dial. 

Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyswllt

E-bostiwch [email protected] 

TRA102242 16/05/2019