Nadolig Llawen

ChristmasShopping 

Beth sy'n digwydd yng Nghasnewydd

Mae Beth Sy'n Ymlaen Dinas Casnewydd yn borth digwyddiadau newydd ar gyfer y ddinas. Cymerwch gip ac archwiliwch yr holl ddigwyddiadau anhygoel sydd gan Gasnewydd i'w cynnig - i gyd mewn un lle!

Porwch drwyddynt i gyd, neu chwiliwch am yr hyn sy'n eich cyffroi fwyaf - chi biau'r dewis. www.whatsoncityofnewport.co.uk.

Siopa gyda’r hwyr

Eleni bydd Friars Walk yn agor tan 7pm Ddydd Iau i Ddydd Sadwrn rhwng 23 Tachwedd a 23 Rhagfyr ar gyfer siopa gyda’r hwyr.

Bydd y Kingsway hefyd ar agor tan 8pm ar ddyddiau Iau rhwng 23 Tachwedd a 21 Rhagfyr.

Llyfrgell Ganolog Casnewydd

Oriau agor gwasanaethau wyneb yn wyneb:

Bydd holl wasanaethau’r cyngor yn Llyfrgell Ganolog Casnewydd (Gwasanaethau Cwsmeriaid, Cynllunio, Tai a Threth y Cyngor) ar gau ar 26 Rhagfyr 2023 ac 1 Ionawr 2024.

Bydd gwasanaethau cwsmeriaid ar gael 11-5 ar 27 Rhagfyr yn lle 12-6.

Parciau

Eleni, bydd holl gatiau’r parc yn cael eu gadael ar agor o 24 Rhagfyr 2023 tan 3 Ionawr 2024.

Bydd gatiau’r parc yn cael eu cloi bob nos o 3 Ionawr 2024 am 4pm.

Mynwentydd

Bydd swyddfa'r fynwent yn cau Ddydd Gwener 22 Rhagfyr ac yn ailagor Ddydd Mercher 27 Rhagfyr i 29 Rhagfyr 2023 gydag oriau gwaith arferol. 

Bydd swyddfa'r fynwent yn cau Ddydd Gwener 29 Rhagfyr ac yn ailagor Ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.

Ni fydd darpariaeth claddu trwy ffydd ar gael ar 25 a 26 Rhagfyr 2023 nac ar 1 Ionawr 2024.

Bydd giatiau’r parciau a'r fynwent yn parhau ar agor i bob ymwelydd o Noswyl Nadolig hyd at 2 Ionawr cyn i’r trefn cloi ail-ddechrau eto. 

Amlosgfa Gwent

Bydd Amlosgfa Gwent yn cau ar 22 Rhagfyr am 3pm ac yn ailagor 27 Rhagfyr gydag oriau gwaith arferol.  

Bydd yr Amlosgfa yn cau am 3pm ar 29 Rhagfyr a bydd yn ailagor 2 Ionawr 2024 gydag oriau gwaith arferol.  

Canolfan Gyswllt

Bydd y ganolfan gyswllt ar agor eleni ar oriau arferol dros wyliau'r Nadolig, bydd y ganolfan ar gau ar 25 a 26 Rhagfyr 2023. 

Bydd yn cau am 3pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr.

Bydd y ganolfan gyswllt hefyd ar gau ar 1 Ionawr 2024, ond bydd ar agor o 2 Ionawr 2024 gydag oriau gwaith arferol. 

Casgliadau gwastraff ac ailgylchu

Eleni ni fydd casgliadau ar Ddydd Nadolig na Dydd Calan.  Bydd y casgliadau yn yr wythnosau hynny ddiwrnod yn hwyr (Dydd Mawrth i Ddydd Sadwrn).

Gwiriwch eich diwrnod casglu.

Bydd CAGC ar gau 25 Rhagfyr a bydd yn ailagor ar 26 Rhagfyr 2023.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu slot cliciwch yma

Ailgylchu adeg y Nadolig

Mae'r Nadolig bob amser yn cynhyrchu llawer o wastraff y gellir ei ailgylchu - o ddeunydd pacio cardbord a phapur lapio i fwyd sydd dros ben.  Dyma rai awgrymiadau ar sut i ailgylchu'r rhain gartref.

  • Defnyddiwch y prawf creinsio

Ddim yn siŵr a ellir ailgylchu darn o bapur? Ceisiwch ei greinsio yn eich llaw. Os nad yw'n neidio’n ôl, yna gellir ei ailgylchu. Mae'n brawf da i'w ddefnyddio gyda phapur lapio. Ac os ydych chi'n ailgylchu cardiau pen-blwydd neu’r Nadolig, tynnwch unrhyw ddarnau â ‘gliter’ yn gyntaf.  

  • Torrwch eich cardbord

Torrwch eich cardbord fel ei fod yn ffitio yn y blwch a/neu fag gwyrdd. Mae Wastesavers hefyd yn derbyn swp bychan, wedi’i blygu, wrth ochr y blwch os yw’r un maint â'r blwch gwyrdd.  Gellir mynd â darnau mwy i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC) i'w hailgylchu.

  • Caru Bwyd, Casáu Gwastraff  

Oeddech chi’n gwybod bod croen un fanana yn creu digon o ynni i bweru dau ffôn clyfar? Wrth glirio'r llestri ar ôl bwyta, rhowch y gwastraff bwyd yn y cadi ailgylchu yn lle ei roi yn y bin. 

  • Ailgylchwch eitemau trydanol diangen

Os nad ydynt wedi torri, beth am roi bywyd newydd iddynt er mwyn i rywun arall eu mwynhau?  Gallwch fynd â nhw i Siop y Domen yn CAGC, neu fynd i siop newydd Wastesavers ar Chepstow Road, y Maendy. 

Gellir mynd ag unrhyw eitemau bach sydd wedi torri i CAGC i'w hailgylchu neu eu rhoi yn y blwch glas i'w casglu. I gael mwy o wybodaeth am sut i ailgylchu eitemau trydanol diangen, ewch i www.recycleyourelectricals.org.uk

Coed Nadolig go iawn

Mae'r gwasanaeth yma wedi gorffen. 

Gallwch fynd â'ch coeden i'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref ar Ffordd y Dociau. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn rhad ac am ddim i drigolion Casnewydd.