Cyngor ariannol
Bydd defnyddio amrywiaeth addas o gynhyrchion a gwasanaethau ariannol yn eich helpu i reoli eich arian.
Darllenwch fwy am:
Undebau Credyd
Cwmnïau cydweithredol ariannol di-elw yw Undebau Credyd y gall eu haelodau fenthyca o adneuon cronedig ar gyfraddau llog isel.
Maen nhw’n darparu gwasanaethau ariannol, cyfrifon cynilo a benthyciadau fforddiadwy.
Mae Undeb Credyd Casnewydd yn darparu benthyciadau cystadleuol a lle diogel ar gyfer cynilion, gan arbenigo mewn benthyciadau bach o gyn lleied â £100 i fenthyciadau diwarant o hyd at £5,000 ar gyfer cynilwyr rheolaidd.
Mae Undeb Credyd Smart Money Cymru yn cynnig gwasanaethau ariannol syml, fforddiadwy i bobl sy’n byw yng Nghasnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent.