Lwfans tai lleol

Yn achos tenantiaid preifat, heblaw'r rhai sy'n rhentu oddi wrth gymdeithas tai, y Lwfans Tai Lleol yw'r ffigur rhent uchaf y gellir ei ddefnyddio i gyfrifo budd-dal tai.

Mae Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti'n cyhoeddi lefelau rhent uchaf ar gyfer eiddo o bob maint mewn ardal leol a chaiff ceisiadau am hawlio budd-dal tai eu hasesu ar sail swm gosod, sef y Lwfans Tai Lleol.

Mae swm y Lwfans Tai Lleol yn dibynnu ar nifer yr ystafelloedd gwely y mae eu hangen ar deulu'r hawliwr – yr enw ar hyn yw meini prawf maint.

Ardaloedd Marchnad Rentu Eang

Mae'r Gwasanaeth Rhenti wedi rhannu'r wlad yn Ardaloedd Marchnad Rentu Eang.

Un Ardal Marchnad Rentu Eang yn unig sydd yng Nghasnewydd ac mae'r Gwasanaeth Rhenti wedi cyhoeddi'r symiau canlynol ar gyfer y Lwfans. 

Lwfans Tai Lleol ar gyfer yr Ardal Marchnad Rentu Eang

Categori

Casnewydd, £ yr wythnos

Llety a rennir 75.95
1 ystafell wely 90.90
2 ystafell wely 113.92
3 ystafell wely 126.58
4 ystafell wely 172.60
Lwfans Tai Lleol ar gyfer yr Ardal Marchnad Rentu Eang - o Ebrill 2024
 Categori  Casnewydd, £ yr wythnos
Llety a rennir £77.65
1 ystafell wely 101.26
2 ystafell wely £138.08
 3 ystafell wely  £149.59
 4 ystafell wely  £202.52

Bydd swm y Lwfans a ddefnyddir wrth gyfrifo'r budd-dal yn ddilys am 12 mis o 1 Ebrill 2020 ymlaen, neu hyd nes bod amgylchiadau'r hawliwr yn newid ac yn effeithio ar nifer yr ystafelloedd gwely y mae eu hangen.

Caiff swm y Lwfans ei adolygu ar 1 Ebrill bob blwyddyn.

Meini prawf maint

Caniateir un ystafell wely ar gyfer pob un o'r canlynol:

  • cwpl
  • rhywun sy'n 16 oed neu'n hŷn
  • dau blentyn o'r un rhyw hyd nes byddant yn 16 oed
  • dau blentyn o dan 10 oed
  • unrhyw blentyn arall (heblaw plentyn maeth neu blentyn sydd â'i brif gartref yn rhywle arall)
  • gofalwr (neu grŵp o ofalwyr) sy'n darparu gofal dros nos.

Caiff pob person ei gyfrif unwaith yn y grŵp cyntaf y byddai'n ymddangos ynddo.

Ni chaiff pawb yn y cartref eu cyfrif wrth gyfrifo nifer yr ystafelloedd gwely y mae eu hangen.

Mae'r tenant a phartner y tenant yn cael eu cyfrif, ynghyd ag unrhyw blant neu bobl ifanc y maen nhw'n gyfrifol amdanynt.

Os oes gan y tenant unrhyw oedolion eraill nad ydynt yn lletywyr, maen nhw'n cael eu cyfrif. Ni chaiff tenantiaid ar y cyd eu cyfrif.

Mae cyhoeddiad diweddar gan y Llywodraeth wedi cyflwyno dau newid ar draws y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol. Maen nhw'n ymwneud â dau grŵp penodol ac yn berthnasol o 1 Ebrill 2013 ymlaen:

• caniateir ystafell ychwanegol ar gyfer plentyn maeth neu blant sy'n byw gyda gofalwr maeth cymeradwy

• bydd aelodau'r lluoedd arfog sydd oddi cartref oherwydd gweithredoedd milwrol yn cael eu cynnwys o hyd yn y cartref wrth gymhwyso'r meini prawf maint.

Mae cyhoeddiad ar wahân arall gan y Llywodraeth yn golygu bod awdurdodau lleol yn gallu caniatáu ystafell wely ychwanegol i blant nad ydynt yn gallu rhannu oherwydd eu hanableddau difrifol.

Llety a rennir

Mae swm y Lwfans ar gyfer llety a rennir yn berthnasol i bobl sy'n byw mewn llety nad yw'n hunangynhwysol, e.e. mae un hawliwr yn byw mewn ystafell ac yn rhannu'r defnydd ar gegin, ystafell fyw neu ystafell ymolchi.

Bydd y gyfradd hon yn berthnasol i:

  • hawlwyr unigol o dan 35 oed – newid deddfwriaethol ers 1 Ionawr 2012 yw hwn, ni waeth pa fath o lety y maent yn byw ynddo
  • cyplau heb blant, os ydynt yn byw mewn llety nad yw'n hunangynhwysol
  • tenantiaid ar y cyd, os ydynt yn rhannu rhan o'r llety, e.e. rhannu'r defnydd ar y gegin

Ni fydd y gyfradd hon yn berthnasol i:

  • ymadawyr gofal o dan 22 oed, neu gwsmer sy'n byw gydag ymadawr gofal o dan 22 oed sy'n bartner iddo, ac nid oes ganddynt unrhyw blant dibynnol
  • hawlwyr unigol neu gyplau heb blant dibynnol, y mae'r Premiwm Anabledd Difrifol yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo eu budd-dal

O dan yr amgylchiadau hyn, bydd cyfradd y Lwfans ar gyfer un ystafell wely yn berthnasol, p'un a ydynt yn rhannu llety ai peidio, ac ni waeth beth yw ei faint. 

Cysylltu

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd neu anfonwch e-bost at [email protected]