Taliadau Tai Dewisol

Mae Taliadau Tai Dewisol (TTD) yn daliad gall helpu tuag at gostau tai, y gall unrhyw un sy’n hawlio Budd-daliadau Tai wneud cais amdani. Gall fod nifer o resymau am wneud cais ar gyfer TTD, er enghraifft:

  • fod eich Lwfans Tai Lleol yn is na’ch rhent mewn eiddo preifat wedi ei rhenti
  • fod eich Budd-daliad Tai yn cael ei leihau oherwydd bod didyniadau di-dibynnydd / casgliadau costau tai
  • fod eich Budd-daliad Tai yn lleihau oherwydd eich bod yn oedran gweithio ac mae wedi cael ei benderfynu eich bod yn cael ystafell gwely sbâr mewn eiddo sy’n cael ei rhenti’n gymdeithasol
  • fod eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau oherwydd y Cap Budd-daliadau

Gall TTD hefyd gael ei dalu er mwyn helpu gyda blaendal rhent neu rent o flaen llaw am eiddo nad ydych wedi symud mewn iddo eto dim ond fod hawl gennych i Fudd-dal Tai ar gyfer eich cartref presennol. Gall hefyd helpu gyda threuliau cyfandaliad fel costau symud.

Ni all Taliadau Tai Dewisol cael eu defnyddio ar gyfer cynnydd mewn rhent oherwydd ôl-ddyledion neu i wneud y gwahaniaeth os fydd gordaliad yn cael ei adfer o’ch Budd-daliadau Tai. Ni all chwaith helpu ar gyfer cosbau penodol neu leihad mewn budd-daliadau.

Bydd pob cais ar gyfer TTD yn cael ei adolygu yn unol â Pholisi Taliadau Tai Dewisol y Cyngora gafodd ei ddatblygu drwy weithio gyda Chlwb Diwygiad Lles a Chynghorau eraill ar draws Cymru.

Mae TTD yn cael eu talu o gyllideb gyfyngedig felly ni all y Cyngor helpu pawb gyda chostau tai. Mae’n bwysig ein bod yn helpu’r cartrefi sydd angen y cymorth mwyaf. Mae’r Polisi TTD yn esbonio sut mae ceisiadau yn cael eu hasesu i wneud y penderfyniadau anodd hyn.

Darllenwch fwy am TTD ar safle Shelter Cymru

Cysylltu

I gael ffurflen gais ffoniwch 01633 656656 neu 01633 851578 neu anfonwch e-bost at [email protected] i ofyn am gael ffurflen wedi’i hanfon atoch.  Maen nhw hefyd ar gael gan eich landlord cymdeithasol cofrestredig.

Costau byw: dysgwch fwy am gymorth a chyngor arall sydd ar gael yng Nghasnewydd