Gostyngiad Person Sengl

Pan mai dim ond un oedolyn sy’n byw mewn annedd gellir gwneud cais i gael gostyngiad o 25%. 

Cais am ostyngiad person sengl

Cael gwared ar ostyngiad person sengl presennol 

Eithriadau eraill 

Os mai dim ond un oedolyn perthnasol sy’n eich annedd, mae gennych hawl i gael gostyngiad o 25%; os nad oes unrhyw oedolion perthnasol efallai y rhoddir gostyngiad o 50%. 

Efallai y rhoddir gostyngiad os oes mwy nag un oedolyn yn byw mewn annedd, ond bod o leiaf un ohonynt yn cael ei ddiystyru. 

Gweler y rhestr o bobl a ddiystyrir a lawrlwythwch ffurflen gais os ydych yn meddwl bod un o’r categorïau’n berthnasol.