Gostyngiad Anableddau

Gellir lleihau’r dreth gyngor os bydd person sy’n anabl yn barhaol (oedolyn neu blentyn) yn byw mewn annedd â nodweddion penodol sy’n hanfodol neu’n bwysig i’r person anabl megis:

  • ystafell heblaw ystafell ymolchi, cegin neu dolied, a ddefnyddir yn bennaf gan y person anabl
  • ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol er defnydd y person anabl
  • lle tu mewn i’r annedd ar gyfer defnyddio cadair olwyn
  • Mae’n rhaid i’r cyngor benderfynu p’un a fyddai’r person â’r anabledd yn ei chael hi’n amhosibl neu’n anodd iawn i fyw yn yr annedd, neu p’un a fyddai ei iechyd yn dioddef, neu’r anabledd yn gwaethygu’n ddifrifol, pe na bai’r nodwedd ychwanegol ar gael
  • Mae eich cartref yn gymwys, bydd eich bil yn cael ei ostwng i’r un band ag eiddo yn y band prisio un lefel dan y band a nodir ar y rhestr brisio
  • Er enghraifft, os yw eich cartref ym mand D, caiff eich bil ei ostwng i’r un lefel ag annedd band C
  • Ni fydd yn effeithio ar werth eich cartref neu ei fand ar y rhestr brisio lle byddai’n parhau i ymddangos fel band D
  • Pe bai eich cartref ym mand A (y band treth gyngor isaf) byddai gostyngiad o 1/9 o Dreth Gyngor band D yn gymwys  

Apply

If you think you are eligible apply online for a council tax reduction

Or download and complete the council tax disabilities reduction application (pdf)