COVID-19: cynllun taliadau hunanynysu
Mae cynllun cymorth hunanynysu Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ar incwm isel, na allant weithio o gartref ac sy'n rhaid iddynt hunanynysu.
Gallech gael taliad o £500 i helpu gyda cholli enillion os dywedwyd wrthych am ynysu drwy gynllun Profi ac Olrhain y GIG neu drwy ap GIG COVID-19 ac ni allwch weithio gartref.
I gael y taliad, rhaid i chi:
Cymorth i rieni a gofalwyr.
O 14 Rhagfyr 2020 estynnir cymhwysedd i gynnwys rhieni a gofalwyr sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
- Mae'r plentyn yn mynychu ysgol neu leoliad gofal plant hyd at a chan gynnwys Blwyddyn 8 (neu hyd at 19 oed os oes gan y dysgwr anghenion lluosog a chymhleth);
- Gofynnwyd i'r plentyn hunanynysu gan POD neu gofynnwyd iddo hunanynysu am 10 diwrnod neu fwy gan yr ysgol neu'r lleoliad gofal plant o ganlyniad i achos mewn ysgol, lleoliad gofal plant neu leoliad addysg bellach; ac
- Mae rhieni neu ofalwyr yn bodloni meini prawf y prif gynllun, sef:
- maent yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig;
- maent yn methu gweithio gartref a byddant yn colli incwm o ganlyniad; ac
- mae (yr ymgeisydd neu ei bartner/phartner) yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n Seiliedig ar Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n Seiliedig ar Incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn ar hyn o bryd; neu
- Mae'r cais yn cael ei dderbyn o dan y cynllun dewisol.
Taliadau yn ôl Disgresiwn
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael taliad yn ôl disgresiwn o £500 os byddwch yn bodloni pob un o’r meini prawf cymhwysedd uchod, ond:
- nad ydych yn derbyn y Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn ar hyn o bryd a
- byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i beidio â gallu gweithio tra eich bod yn hunanynysu.
Mae'r cais ar gyfer un person yn unig, rhaid i bawb sy'n gymwys ar yr un aelwyd wneud cais unigol.
Gwneud cais am y cynllun cymorth hunanynysu
Cyn dechrau ar y cais, gofalwch fod y wybodaeth ganlynol wrth law gennych:
- eich Rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfriflen banc, slip cyflog diweddaraf neu brawf eich bod yn hunangyflogedig
Cynllun cymorth hunanynysu Covid-19: hysbysiad preifatrwydd
Am wybodaeth bellach cysylltwch SelfIsolationPayments@newport.gov.uk.
Bydd unrhyw daliad a gewch o dan y cynllun hwn yn drethadwy ond caiff ei ddiystyru at ddibenion budd-daliadau.
TRA129744 10/12/20