Browser does not support script.
Newport City Council is following and implementing best practice regarding coronavirus as advised by the government and Public Health Wales.
Read more >
Ffurf o dreth leol ar breswylwyr a pherchenogion anheddau domestig sydd wedi’u dynodi’n ‘bobl atebol’ yw’r Dreth Gyngor.
Mae’r Dreth Gyngor yn cyfrannu tua 23% at incwm Cyngor Dinas Casnewydd ac yn mynd tuag at y gost o ddarparu gwasanaethau i’r gymuned.
Mae’r 77% arall o incwm y Cyngor yn dod o grantiau a thaliadau eraill.
Mae’r Cyngor yn casglu treth ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a sawl cyngor cymuned.
Bydd eich bil yn dangos faint fydd yn mynd i bob un o’r sefydliadau hyn a faint fydd yn mynd i’r Cyngor.
Lawrlwythwch Canllaw i'r Dreth Gyngor ac Ardrethi Annomestig 2020/2021 (pdf)
Lawrlwythwch Cyllideb Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent 2020/2021 (pdf)
Lawrlwythwch Canllaw i'r Dreth Gyngor ac Ardrethi Annomestig 2019/2020 (pdf)
Lawrlwythwch Canllaw i’r Dreth Gyngor ac Ardrethi Annomestig 2018/2019 (pdf)
Lawrlwythwch Cyllideb Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent 2018/2019 (pdf)
Bandiau Prisio
Defnyddiwch Asiantaeth y Swyddfa Brisio i chwilio am fand prisio presennol unrhyw eiddo sydd wedi’i restru yng Nghymru a Lloegr.
Mae Rhestr Brisio 1993 yn defnyddio prisiau eiddo o fis Ebrill 1991 ac mae Rhestr 2005 yn defnyddio prisiau o fis Ebrill 2003.