Stoc tai cymdeithasol
Nid yw Cyngor Dinas Casnewydd bellach yn berchen ar unrhyw eiddo ac mae llety rhent cymdeithasol yn ardal Casnewydd yn eiddo i nifer o gymdeithasau tai.
Dyma fanylion cymdeithasau tai Casnewydd - am fanylion cyswllt landlordiaid sy'n berchen ar dai cymdeithasol yn ardal Casnewydd a fydd yn gallu darparu gwybodaeth mewn perthynas â'r stoc dai y maent i gyd yn berchen arni.
Am fanylion am stoc tai cymdeithasol presennol - https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Housing/Social-Housing-Stock-and-Rents
Unedau newydd wedi'u datblygu - https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Housing/Affordable-Housing/Provision/additionalaffordablehousingprovision-by-provider-housingtype
Eiddo sy’n cael eu hysbysebu ar wefan Home Options
Nod y wybodaeth ar y daenlen isod yw rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r eiddo gwag sydd yn cael eu hysbysebu drwy Home Options. Mae eiddo sydd ar gael i'w rhentu neu eu prynu'n rhannol yn cael eu hysbysebu bob wythnos ar wefan Home Options: Hafan - Home Options Casnewydd
Mae'r rhestr hon yn cynnwys yr holl eiddo a hysbysebwyd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022. Mae i'w ddefnyddio fel canllaw yn unig ac ni allwn warantu y bydd eiddo oedd wedi'i osod i aelwyd ar fand penodol y llynedd yr un fath eleni. Os nad oedd eiddo wedi’u rhestru mewn ardal benodol, mae hyn yn golygu nad oeddynt yn cael eu hysbysebu nac ar gael.
Eich siawns o gael eich ailgartrefu, dylech wneud cais am eiddo mewn amrywiaeth o ardaloedd.
I chwilio yn ôl lleoliadau penodol, mathau o eiddo, nifer yr ystafelloedd gwely, bandiau llwyddiannus, a phwyntiau, gallwch glicio ar y saeth ar ochr dde pob colofn. Bydd rhestr yn ymddangos. Gallwch ddewis un neu fwy o opsiynau o'r rhestr ar draws pob un o'r colofnau ar yr un pryd. Yna, byddwch wedi creu eich cais chwilio unigol eich hun. Gallwch glirio'r hidlydd(ion) ar unrhyw adeg drwy glicio ar y saeth a dewis '(Select All)'. Bydd hyn yn dychwelyd y daenlen i'w gosodiadau gwreiddiol.
Home Options (Excel spreadsheet)
Crynodeb blynyddol o swm y Grant Tai Cymdeithasol a dderbyniwyd i'w ddosbarthu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, nifer y cynlluniau rydym yn eu cefnogi a nifer yr unedau y byddant yn eu darparu
Crynodeb blynyddol
|
2019/20
|
2020/21
|
2021/22 (disgwyliedig)
|
Cyfanswm y Grant Tai Cymdeithasol
|
£8,844,070
|
£7,225,751
|
£12,497,052
|
Cynlluniau a Gefnogir
|
13
|
12
|
17
|
Nifer yr Unedau a Gefnogir
|
318
|
305
|
368
|
Rhestr Aros Tai
Mae'r cyngor yn gweithredu cofrestr tai gyffredin mewn partneriaeth â'r cymdeithasau tai yn yr ardal.
Mae'r data canlynol yn darparu nifer yr aelwydydd sydd wedi'u cofrestru ar gyfer tai ar 31 Mawrth bob blwyddyn ers i'r gofrestr tai fod ar waith:
- 2012 - 2013 = 4655
- 2013 - 2014 = 6755
- 2014 - 2015 = 6000
- 2015 - 2016 = 5494
- 2016 - 2017 = 6421
- 2017- 2018 = 8059
- 2018 – 2019 = 8400
- 2019 – 2020 = 7647
- 2020 – 2021 = 8219
- 2021 – 2022 = 9370
Dyrannu tai
Mae'r eiddo a hysbysebir drwy'r gofrestr tai cyffredin, Home Options Newport, yn cael eu dyrannu gan bob cymdeithas dai bartner.
Nifer y dyraniadau a wnaed ym mhob blwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth:
- 2012 - 2013 = 886
- 2013 - 2014 = 1050
- 2014 - 2015 = 1017
- 2015 - 2016 = 1144
- 2016 - 2017 = 984
- 2017 - 2018 = 881
- 2018 - 2019 = 977
- 2019 - 2020 = 854
- 2020 - 2021 = 751
- 2021 - 2022 = 679