Craffu

Creodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 swyddogaethau Cabinet a Chraffu ar wahân o fewn cynghorau.

Mae craffu yn galluogi cynghorwyr nad ydynt yn dal swyddi cabinet o fewn y cyngor i chwarae rhan lawn yng ngwaith y cyngor. 

Mae aelodau'r Pwyllgorau craffu yn adolygu polisïau ac yn cwestiynu penderfyniadau allweddol a wneir gan Gabinet y cyngor i sicrhau eu bod yn agored, yn atebol, yn dryloyw ac er lles gorau'r ardal leol a'i thrigolion.

Mae pwyllgorau craffu hefyd yn adolygu cyflawniadau'r cyngor yn erbyn targedau a gynlluniwyd, materion sy'n peri pryder lleol a gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor a sefydliadau cyhoeddus eraill.

Mae'n hanfodol bod pobl leol, rhanddeiliaid a sefydliadau perthnasol ynghlwm wrth yr adolygiadau hyn.   

Mae’r  Ganolfan er Craffu Cyhoeddus yn nodi pedair egwyddor sylfaenol ar gyfer craffu cyhoeddus effeithiol: 

  • mae'n cynnig her 'cyfaill beirniadol' i bobl sy’n creu polisïau ac yn gwneud penderfyniadau
  • mae’n galluogi’r cyhoedd i leisio eu barn a’u pryderon
  • mae’n cael ei wneud gan 'lywodraethwyr annibynnol eu meddwl' sy'n arwain ac yn perchenogi’r rôl graffu
  • mae'n sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus

Chwilio drwy adroddiadau, agendau a chofnodion pwyllgorau

Gweld llythyrau Craffu

Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu eich barn ar bynciau y mae Craffu yn eu hystyried ac awgrymiadau ynghylch unrhyw faterion y credwch y dylem fod yn ymchwilio iddynt.  

Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm craffu i gael gwybod mwy.