Dweud Wrthym Unwaith

Pan fydd rhywun yn marw, gall Dweud Wrthym Unwaith eich helpu i roi'r wybodaeth angenrheidiol i'r Adran Gwaith a Phensiynau fel y gallant ei throsglwyddo i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau'r cyngor lleol.

Sut i ddefnyddio Dweud Wrthym Unwaith

Rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth yn gyntaf a gallwch wedyn naill ai:

  • ffoniwch 01633 235510 i wneud apwyntiad i drafod mewn person gyda'r Cofrestrydd 
  • ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 085 7308 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm i drafod dros y ffôn.

Bydd yn helpu os oes gennych y wybodaeth ganlynol am y sawl sydd wedi marw:

  • ei rif Yswiriant Gwladol a'i ddyddiad geni
  • manylion unrhyw fudd-daliadau neu wasanaethau yr oedd yn eu derbyn
  • ei dystysgrif marwolaeth os yn defnyddio'r gwasanaeth ffôn
  • ei drwydded yrru neu rif trwydded yrru
  • ei basbort neu rif pasbort a thref/gwlad enedigol
  • enw'r darparwr tai cymdeithasol os yn berthnasol
  • Bathodyn Glas os yn berthnasol

Gofynnir i chi hefyd am fanylion cyswllt ar gyfer:

  • ei berthynas agosaf
  • gŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n ei oroesi
  • y person sy’n delio gyda’i ystâd

Rhaid i chi gael caniatâd y bobl hyn cyn rhoi gwybodaeth amdanynt.

Pwy gaiff ei hysbysu?

Bydd Dweud Wrthym Unwaith yn hysbysu’r gwasanaethau canlynol am y farwolaeth:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (Pensiwn, Anabledd a Gwasanaeth Gofalwyr; Canolfan Byd Gwaith, Tîm Iechyd Tramor)
  • Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (Budd-dal Plant; Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith; Trethiant Personol)
  • Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Gwasanaethau'r Cyngor gan gynnwys:

Budd-dal tai, budd-dal y dreth gyngor, darparwr tai cyngor (os yn berthnasol), y dreth gyngor, llyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden, Bathodynnau Glas, gwasanaethau cymdeithasol oedolion, gwasanaethau cymdeithasol plant, casglu taliadau am wasanaethau'r cyngor, gwasanaethau etholiadol, teithio rhatach, casglu gwastraff â chymorth, trwyddedau parcio i breswylwyr, trwyddedu, addysg.

Am ragor o wybodaeth lawrlwythwch y daflen Dweud Wrthym Unwaith (pdf), ewch i dudalen What to Do After a Death Direct.Gov neu cysylltwch â Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd.