Pan fydd person yn marw heb baratoadau angladd yn eu lle a heb unrhyw un i wneud trefniadau, bydd y cyngor yn trefnu claddedigaeth neu amlosgiad.
Mae gan y cyngor ddyletswydd i wneud hyn dan adran 46 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 a chyfeirir yn aml at achosion o'r fath fel 'angladdau iechyd y cyhoedd'.
Y cyngor sy'n talu'r costau angladdau ac fel arfer cânt eu hadennill o unrhyw asedau (arian neu eiddo) a adawyd gan y sawl a fu farw.
Os oes asedau ar ôl ar ôl cost claddu a thalu unrhyw ddyledion, bydd y rhain yn cael eu trosglwyddo i unrhyw bobl neu sefydliadau (buddiolwyr) a enwir mewn ewyllys.
Os na wnaeth y person ymadawedig ewyllys, mae'r rheolau diffyg ewyllys yn cael eu dilyn.
Os na ellir dod o hyd i unrhyw fuddiolwyr a bod gwerth yr ystâd ar ôl talu unrhyw ddyledion yn fwy na £500, bydd yn cael ei drosglwyddo i'r Goron.
Bydd Adran Bona Vacantia Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth yn ceisio olrhain perthnasau.
Mae rhestr o ystadau heb eu hawlio ar gael ar wefan Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth. Felly, mae'r wybodaeth hon wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu dan adran 21 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Angladdau iechyd y cyhoedd yng Nghasnewydd
Mae'r cyngor yn cyhoeddi manylion angladdau iechyd y cyhoedd ac eithrio'r rhai a gynhaliwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae hyn yn caniatáu amser i ddiogelu eiddo ac i Wasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth wneud eu gwaith.
Byddai datgelu'r wybodaeth hon yn gynharach yn rhagfarnu'r gwaith hwn ac yn rhoi'r eiddo mewn perygl o gael ei ddwyn a’i ddifrodi.
Oherwydd hyn, mae'r wybodaeth hon wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu dan adran 31 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Lawrlwytho Data angladdau iechyd y cyhoedd Casnewydd (Ebrill 2023) (Excel)
Ein nod yw diweddaru’r rhestr bob 12 mis. Y dyddiad sydd wedi’i ddangos ar y ddolen yw’r dyddiad y cafodd y ddolen ei gwirio ddiwethaf, ac nid dyddiad yr angladd olaf ar y rhestr.
Cyswllt
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am yr uwch-arolygydd mynwentydd.
Dod o hyd i wybodaeth am fynwentydd yng Nghasnewydd
Ewch i wefan Amlosgfa Gwent
TRA126841 19/10/2020