Cofrestru partneriaeth sifil

Rhaid cwblhau camau rhagarweiniol sifil cyn pob partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr a rhaid eu cynnal mewn swyddfa gofrestru neu safle sydd wedi'i gymeradwyo. 

Cysylltwch â'r swyddfa gofrestru yn y man lle'r ydych am gofrestru eich partneriaeth i wneud trefniadau.

Yna, rhaid i'r ddau barti roi hysbysiad cyfreithiol yn swyddfa gofrestru'r ardal lle maen nhw'n byw.

Bydd cyfnod aros o 28 niwrnod clir cyn i'r bartneriaeth sifil allu cael ei ffurfio.

Bydd partneriaeth sifil wedi'i ffurfio pan fydd y cwpl wedi llofnodi'r rhestr gofrestru gerbron swyddog cofrestru a dau dyst.

Nid oes rhaid cynnal seremoni fel rhan o'r broses gyfreithiol, ond yng Nghasnewydd, rydym yn cynnig dewis o seremonïau i helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig. 

Gwybodaeth am ffioedd

Gweld rhestr o leoliadau trwyddedig yng Nghasnewydd