Covid-19: canllawiau seremoni

Mansion House gates sign

Diweddariad Covid-19: 

Mae Cymru'n symud i Lefel Rhybudd 0 y Coronafeirws o ddydd Sadwrn 7 Awst 2021. Gallwn groesawu grwpiau o 35 (yn cynnwys y cwpl ac unrhyw blant) ar gyfer seremonïau yn y Plasty o'r dyddiad hwnnw. Gallwn hefyd groesawu hyd at 10 person ychwanegol i'n tiroedd ar gyfer ffotograffau yn dilyn y seremoni. Mae seremonïau gardd ar gael drwy drefniant ymlaen llaw.

Rydym wedi cael canllawiau gweithredol gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yng Nghymru a Lloegr a byddwn yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol, teithio hanfodol ac ymgasglu cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru sydd ar waith ar ddiwrnod eich seremoni.

Darllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar briodasau a phartneriaethau sifil ar gyfer awdurdodau lleol a mannau addoli

Darlleniadau a cherddorion

Gellir caniatáu darlleniadau a cherddoriaeth fyw - cysylltwch â ni am gyngor.

Uchafswm niferoedd pobl

Yn sgil cyngor gan y Llywodraeth, dyma'r nifer fwyaf o bobl a ganiateir ar hyn o bryd:

  • Ystafell Liscombe - 35* person, gan gynnwys y cwpl
  • Ystafell yr Ardd - 10* person, gan gynnwys y cwpl
  • Nid yw Swyddfa Gofrestru Casnewydd wedi newid - 4* person (y cwpl a 2 dyst).

*nid yw'r rhifau hyn yn cynnwys y tîm cofrestru.

Cofiwch fod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael dau dyst a fydd yn llofnodi'r gofrestr.

Dylai'r tystion fod dros 16 oed a chael eu cynnwys o fewn y niferoedd a fydd yn bresennol.

Gwesteion

A fyddech cystal ag ymgyfarwyddo â'r newidiadau isod, a wnaed i sicrhau iechyd a diogelwch y cwpl, eu gwesteion a'r tîm cofrestru.

  • Dim ond gwesteion wedi eu gwahodd y gellir eu croesawu i'r Plasty.
  • Rhaid i bob plentyn fod yn yng nghwmni oedolyn bob amser.
  • Mae'n ofynnol i'r cwpl roi enwau a rhifau cyswllt pawb sy'n bresennol i ni, bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw'n ddiogel am fis ar ôl y seremoni i gydymffurfio ag unrhyw geisiadau olrhain cysylltiadau.
  • Wrth gyrraedd dylai gwesteion ddilyn yr arwyddion ‘Gwesteion Seremoni' a fydd yn eich cyfeirio at y fynedfa briodol ar gyfer yr ystafell seremoni.
  • Dylai pob gwestai fod yn ei sedd erbyn 10 munud i'r awr, ac ni ellir derbyn rhai sy'n cyrraedd yn hwyr.
  • Bydd gofyn i bawb ddefnyddio'r hylif diheintio dwylo a ddarperir wrth iddynt ddod i mewn i'r adeilad.
  • Gofynnir i westeion dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb tra byddant y tu mewn i'r Plasty oni bai eu bod wedi'u heithrio'n feddygol.

Diolch am eich dealltwriaeth a’ch amynedd.

Byddwn, fel yr arfer, yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y seremonïau'n arbennig ac yn ystyrlon tra’n cadw at y canllawiau angenrheidiol.