Priodas a Phartneriaeth Sifil

Mansion House bride and groom outside

Rydym wedi cael canllaw gweithredol gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yng Nghymru a Lloegr a byddwn yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol, teithio hanfodol ac ymgasglu cymdeithasol.   

Byddwn, fel yr arfer, yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y seremonïau'n arbennig ac yn ystyrlon tra’n cadw at y canllawiau angenrheidiol. 

Os cafodd eich seremoni ei chanslo gennym ni rhwng 23 Mawrth a 30 Mehefin, byddwn yn cysylltu â ni i wneud trefniadau pellach.

Gan ein bod yn arbennig o brysur, defnyddiwch ein ffurflen ymholiad seremoni (i ddefnyddio'r ffurflen, mewngofnodwch neu crëwch gyfrif, neu defnyddiwch hi fel 'Gwestai', gweler ochr chwith isaf y ffurflen) i gysylltu â ni os yw eich cais i aildrefnu yn fater brys. Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y bo modd. 


 

Llongyfarchiadau, mae eich dyfodol gyda’ch gilydd yn dechrau yma!

Rydym yn cydnabod bod eich priodas neu bartneriaeth sifil yn achlysur unigryw ac arbennig, ac rydym yma i helpu i’w wneud yn ddiwrnod i’w gofio. 

Beth bynnag yw’ch trefniadau, byddwn yn ceisio sicrhau bod eich seremoni chi yr union seremoni yr hoffech ei chael ac yn bwysicach fyth, ei bod yn cael ei chynnal yn unol â’r gyfraith. 

Mae Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd wedi’i leoli yn Y Plasty, ger canol y ddinas - dyma lun o’r Plasty.

Dewch i edrych ar rai o’r dewisiadau ystafelloedd yn ein hadeilad cyn bwcio seremoni, oherwydd unwaith y mae’r prosesau cyfreithiol wedi dechrau, bydd y gwaith papur ond yn ddilys i’r ystafell a nodir.

Pa fath bynnag o seremoni yr hoffech ei chael, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu ar gyfer eich dymuniadau, a gall ein staff cofrestru profiadol eich cynghori a’ch tywys ar hyd y daith.

Yma yng Nghasnewydd rydym yn lwcus o gael amrywiaeth o leoliadau gwahanol sydd wedi’u trwyddedu ar gyfer seremonïau sifil. 

Os ydych yn breuddwydio am gerdded i fyny’r eil mewn cartref mawreddog neu os yw’n well gennych gael goleudy arfordirol unigryw, mae’r opsiynau hyn ar gael i chi.

Os yw’n well gennych gael gwesty crand neu glwb golff cyfeillgar, mae gennym y rhain hefyd.

Os yw meddwl am heulwen cynnes a chân adar mewn parc hyfryd a chael priodi mewn bandstand yn apelio fwy i’ch natur rhamantus, yna gallwn helpu.

Wrth gwrs mae opsiynau eraill, efallai eich bod chi’n chwilio am seremoni awyr agored (os yw’r tywydd yn caniatáu!) ac yna addewidion cyfreithiol mewn safle trwyddedig - gallwn helpu chi gyda hynny hefyd.

Does dim rhaid i chi fyw yng Nghasnewydd i gynnal seremoni yma. 

Chwe cham i’r seremoni

  Cam 1: Pa fath o seremoni?

  Cam 2: Costau  

  Cam 3: Archeb Arbed y Dyddiad    

  Cam 4: Rhoi hysbysiad cyfreithiol  

  Cam 5: Eich dewisiadau seremoni

  Cam 6: Talu’r balans