Ffioedd gwasanaethau dathliadol

Seremonïau enwi ac adnewyddu addunedau priodas 2024

I drefnu seremoni, rhaid talu ffi o £70.00 (nid yw'r ffi hon yn cael ei had-dalu).

Ar ôl trefnu dyddiad, cewch becyn gwybodaeth yn cynnwys manylion ac awgrymiadau ar gyfer cynllunio a phersonoli eich seremoni.

Gofynnir i chi drefnu apwyntiad tua chwe wythnos cyn eich seremoni i gyfarfod â'ch gweinydd i baratoi'r gwaith papur ac fel y gallwn drafod sut i bersonoli eich seremoni.

Gall seremonïau gael eu cynnal yn y Plasty neu mewn unrhyw safle arall sydd wedi'i gymeradwyo.

Bydd y ffi sydd i'w thalu i gynnal y seremoni a'i chofnodi yn y Cofnod Dinesig yn dibynnu ar y diwrnod a'r lleoliad o'ch dewis.

 

Y Plasty 

Safle wedi'i gymeradwyo

Dydd Llun – Dydd Gwener

£384

   £499

Dydd Sadwrn

£462

   £583

Dydd Sul

N/A

   £583

Gwyliau Banc a diwrnodau statudol ychwanegol

N/A

   £672

Mae pecynnau tystysgrifau coffaol ar gael i'w prynu am £11.00.

Rhaid talu ffioedd y seremoni ar gyfer safleoedd wedi'u cymeradwyo er mwyn i'r tîm cofrestru fod yn bresennol, ac maent yn ychwanegol at ffi'r lleoliad.