Ymchwilio hanes teulu

Family history tree

Y cam cyntaf wrth ymchwilio i hanes eich teulu yw siarad â'ch perthnasau, gan gasglu enwau, oedrannau, cyfeiriadau a galwedigaethau ynghyd i baratoi coeden deulu ragarweiniol.

Dylai hyn helpu i gael trefn ar y dyddiadau pan aned pobl, pan briodasant neu pan fuont farw. Arferai rhai teuluoedd gadw cofnodion mewn Beiblau teuluol a gallai eraill fod wedi cadw tystysgrifau neu dorri cofnodion o bapurau newyddion.

I gadarnhau eich ymchwil, dylech gael copïau ardystiedig o gofnodion cofrestrau.

Tystysgrif geni

Bydd tystysgrif geni yn dangos:

  • Enw'r plentyn
  • Dyddiad a man geni
  • Enw a chyfenw'r tad
  • Enw a chyfenw'r fam, a'i henw cyn priodi
  • Galwedigaeth y tad
  • Enw'r rhiant, gan gynnwys enw'r fam cyn priodi, os yw'n briod

Tystysgrif priodas

Yna, gallwch geisio olrhain tystysgrif priodas y rhieni, a fydd yn dangos:

  • Ymhle'r oeddent yn byw adeg eu priodas
  • Eu henwau llawn
  • Eu hoedrannau
  • Eu galwedigaethau
  • Enwau a galwedigaethau tadau'r ddau.

Tystysgrif marwolaeth

Bydd tystysgrif marwolaeth yn dangos:

  • Enw'r ymadawedig
  • Lle y bu farw
  • Ei oedran adeg marw
  • Achos y farwolaeth
  • Galwedigaeth
  • Enw a chyfeiriad y sawl sy'n ei gofrestru
  • Dyddiad cofrestru

Mae cofnodion presennol (ers 1969) yn dangos enwau menywod cyn priodi. 

Gofyn am gopïau o dystysgrifau

Dod o hyd i gofnodion

Cedwir cofrestrau yn y Swyddfa Gofrestru ar gyfer pob ardal. Ewch i Gov.UK am restr o Swyddfeydd Cofrestru dynodedig yng Nghymru a Lloegr. 

Os nad ydych yn siwr am union ddyddiad, bydd Swyddfa Gofrestru Casnewydd yn chwilio blwyddyn cyn ac ar ôl dyddiad penodol, yn rhad ac am ddim.

Tystysgrifau

Os bu'r digwyddiad yn ardal Casnewydd, gallwch wneud cais am dystysgrifau drwy'r post, yn bersonol neu drwy anfon e-bost at [email protected] 

For a fee of £3 we will post the certificates by first-class signed for delivery. 

Darllenwch am ffioedd chwilio a thystysgrifau.

Os ydych yn gwneud cais am dystysgrif geni, dylech ddarparu:

  • Enw adeg genedigaeth
  • Dyddiad geni
  • Enwau'r rhieni yn llawn, gan gynnwys enw'r fam cyn priodi
  • Ble digwyddodd yr enedigaeth

Os ydych yn gwneud cais am dystysgrif marwolaeth, dylech ddarparu: 

  • Enw'r ymadawedig
  • Dyddiad marw
  • Lle y bu farw
  • Ac unrhyw wybodaeth arall berthnasol er mwyn i ni allu olrhain y cofnod

Os ydych yn gwneud cais am dystysgrif priodas, dylech ddarparu:

  • Enw'r priodfab
  • Enw'r briodferch
  • Dyddiad y briodas
  • Lleoliad y briodas – h.y. eglwys neu adeilad cofrestredig
  • Enwau'r tadau os yw'n bosibl, i gadarnhau'r cofnod cywir

Os nad ydych yn gwybod ymhle bu'r digwyddiad, holwch y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO), sy'n cadw cofnodion geni, mabwysiadu, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i 1837. 

Gwybodaeth arall

Cysylltwch â'r Llyfrgell Casnewydd i ofyn am adnoddau ymchwil i hanes y teulu. 

Mae Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwent yn ddefnyddiol os ydych chi'n chwilio yn ardaloedd Gwent a Sir Fynwy.

Adroddiadau'r cyfrifiad

Mae adroddiadau'r Cyfrifiad yn rhoi manylion y bobl a oedd yn byw mewn aelwyd ar adeg y cyfrifiad.

Mae'r adroddiadau diweddaraf a gyhoeddwyd ar y Cyfrifiad yn rhai ar gyfer 1911; maent ar gael ar wefan Cyfrifiad 1911.

Yn achos digwyddiadau yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban neu Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Gogledd Iwerddon.  

Find My Past: mynegeion ar gyfer genedigaethau, priodasau a marwolaethau o 1837 ymlaen

Free BMD: prosiect gwirfoddol, mae mynegeion yn dechrau o 1837

Ancestry UK: archif o gofnodion o Gymru, Lloegr, Iwerddon a'r Alban, gan gynnwys mynegeion y Swyddfeydd Cofrestru Cyffredinol

Archifau Lincoln   

Gwefan GENUKI: gwybodaeth achyddol ar gyfer y Deyrnas Unedig ac Iwerddon

Gwefan Family History UK: dolenni i safleoedd eraill ynghyd â gwybodaeth

Gwefan Family Search: safle Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, sef y Mormoniaid, sy'n cynnwys gwybodaeth achyddol

Digwyddiadau cyn 1837

Y prif ffynonellau gwybodaeth cyn cofrestru sifil ym 1837 yw cofrestrau'r plwyf a chofnodion crefyddau eraill. Rhowch gynnig ar y canlynol:

Gwefan Family Records

Cymdeithas yr Achyddion.