Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Mae’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. yn galluogi gwladolion yr UE sy’n byw yn y DU a’u teuluoedd i gael statws mewnfudo'r DU sydd ei angen arnynt i fyw, gweithio ac astudio yn y DU ar ôl i Brydain adael yr UE. 

Os ydych chi’n ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd (UE), Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu’r Swistir sydd am fyw, weithio neu astudio yn y DU ar ôl i Brydain adael yr UE, mae angen i chi a’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.  

Ymgeisio 

Rhaid i geisiadau ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gael eu gwneud cyn 30 Mehefin 2021 os yw’r DU yn gadael heb gytundeb.

Mae Swyddfa Gofrestru Casnewydd nawr yn cynnig gwasanaeth sganio dogfennau newydd lle gallwch gael eich dogfennau adnabod wedi’u sganio a’u dilysu er mwyn gwneud cais. 

Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 9am a 3pm ar dydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener, a rhwng 9.30am a 3pm ar ddydd Mawrth.

Nid oes angen apwyntiad ond efallai y bydd angen i chi aros tan y bydd aelod o staff ar gael.

Bydd angen i chi ddod â’r canlynol:

  • eich pasbort biometrig dilys presennol ar gyfer yr UE, AEE neu’r Swistir, neu Drwydded Preswylfa Fiometrig ar gyfer teulu dinasyddion yr UE, AEE neu’r Swistir
  • ffôn symudol sy’n gallu derbyn negeseuon testun neu ddyfais sy’n gallu derbyn e-bost
  • £14 fesul oedolion sy’n ymgeisio (dim tâl i blant dan 18 sy’n mynychu ar yr un pryd ag oedolyn sy’n ymgeisio) - derbynnir arian parod neu gerdyn. 

DS: Dim ond y dogfennau adnabod a restrir uchod y gallwn eu gwirio.

Ar ôl sganio eich dogfennau, dylech ddilyn y ddolen isod i ymgeisio: 

Gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Help a chyngor

Mae yna nifer o wasanaethau yng Nghasnewydd a all eich helpu gyda’ch cais, rhoi cyngor i chi neu a all fynd i’r gwasanaeth  sganio gyda chi.

Darllenwch fwy ar wefan Cynllun Statws Preswylydd yr UE Llywodraeth Cymru.  

Os hoffech gael help yn cysylltu â sefydliad a all eich cefnogi, e-bostiwch [email protected]

Mae ystod eang o gymorth ar gael ar-lein a thros y ffôn ac mae'r Swyddfa Gartref yn ariannu 72 o sefydliadau ledled y DU i helpu'r rhai sydd ei angen.

TRA113729 8/1/20