Seremonïau dinasyddiaeth

Pan fyddwch yn gwneud cais i'r Swyddfa Gartref am ddinasyddiaeth Brydeinig a chaiff eich cais ei brosesu a'i dderbyn, bydd y Swyddfa Gartref yn cysylltu â chi drwy e-bost neu drwy'r post. 

Bydd yr e-bost yn dweud wrthych pa awdurdod lleol y mae angen i chi gysylltu ag ef a bydd yn eich cyfeirio at eu gwefan. 

Os mai Casnewydd yw eich awdurdod lleol, dylech gysylltu â ni i drafod eich opsiynau seremoni:

Seremonïau grŵp

Fe'u cynhelir bob mis ar ddyddiadau a drefnwyd ymlaen llaw yn Y Plasty, cynhelir y rhain gan y Cofrestrydd Arolygol (neu'r dirprwy). 

Seremonïau unigol

Cynhelir seremonïau unigol yn y Plasty ac fe'u cynhelir gan y Cofrestrydd Arolygol (neu'r dirprwy) drwy apwyntiad yn unig.  

Siaradwch â ni am uchafswm nifer y gwesteion wrth archebu.

Darllenwch fanylion y ffi ar gyfer y seremoni dinasyddiaeth hon. 

Seremoni

Ar ôl cyrraedd byddwch yn cael cerdyn gyda'r geiriau y mae'n rhaid i chi eu hadrodd yn ystod y seremoni.

Ar ôl areithiau croesawu, bydd y Cofrestrydd Arolygol yn eich gwahodd i dyngu neu gadarnhau'r llw teyrngarwch i'r Frenhines a gwneud addewid o deyrngarwch i'r Deyrnas Unedig gan ddefnyddio'r geiriau ar y cerdyn a roddir.

Os ydych wedi dewis tyngu'r llw gerbron Duw, dylech ddod â'ch llyfr sanctaidd eich hun gyda chi.

Gofynnir i chi lofnodi Cofnod Dinesig eich seremoni a byddwch yn derbyn eich Tystysgrif Dinasyddiaeth y Swyddfa Gartref. Mae'r seremoni'n cau gyda'r anthem genedlaethol.

Mae croeso i westeion wisgo eu gwisg genedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Casnewydd. 

Ymarfer ar-lein am ddim

Gall trigolion Casnewydd sy'n ymarfer am y prawf dinasyddiaeth Bywyd yn y DU neu Brydeinig gymryd profion ymarfer am ddim ar-lein drwy Lyfrgelloedd Casnewydd.

Gall cwsmeriaid llyfrgell alw mewn unrhyw lyfrgell yng Nghasnewydd am fynediad am ddim i fersiwn ar-lein o'r deunyddiau astudio swyddogol diweddaraf ynghyd â channoedd o gwestiynau prawf ymarfer yn yr un fformat â'r prawf swyddogol.