Pen-blwyddi arbennig

Pen-blwydd yn 100 oed a phen-blwydd priodas ddiemwnt

Gall pobl sy'n cyrraedd eu pen-blwydd yn 100 oed gael cerdyn llongyfarch ac, ambell waith, ymweliad gan y Maer, ar yr amod bod y teulu'n cysylltu â Swyddfa'r Maer o flaen llaw drwy ffonio (01633) 232035 neu anfon e-bost at [email protected]

Sut i gael telegram gan y Frenhines

Os ydych chi, neu aelod o'ch teulu, yn nesáu at ddyddiad arwyddocaol iawn yn eich bywyd, yna mae'n bosibl y gallwch drefnu telegram gan EM y Frenhines.

Gall telegramau pen-blwyddi'n 100 a 105 oed a phen-blwydd priodas ddiemwnt gael eu trefnu trwy ysgrifennu i'r cyfeiriad canlynol, o fewn tair wythnos i'r dyddiad perthnasol.

Os priododd y cwpl dramor, dylid caniatáu hyd at chwe wythnos. Dylech amgáu tystysgrif geni neu dystysgrif priodas fel tystiolaeth, fel y bo'n briodol.

Cysylltwch â'r Chief Clerk, PSO Buckingham Palace SW1 neu lawrlwythwch ffurflen o'r wefan Monarchy Today.

Gall telegramau gael eu trefnu drwy'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar 0300 123 1837.

Cardiau Pen-blwydd

Mae'n bosibl cael cerdyn pen-blwydd oddi wrth EM y Frenhines drwy amgáu copi o'r dystysgrif geni ac ysgrifennu i:

Anniversaries Section, Buckingham Palace, London SW1A 1AA

Tystysgrifau priodas coffaol

Mae'n bosibl cael tystysgrifau priodas coffaol ar gyfer pen-blwyddi priodas Arian (25 mlynedd), Rhuddem (40 mlynedd) Aur (50 mlynedd) a Diemwnt (60 mlynedd) oddi wrth y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar 0300 123 1837. Caniatewch o leiaf 14 diwrnod gwaith cyn bod angen cael y dystysgrif.