Disgyblion Casnewydd yn dathlu hanes y Siartwyr gyda gorymdaith draddodiado
Wedi ei bostio ar Wednesday 26th October 2016
Bydd disgyblion o bedair o ysgolion Casnewydd yn cymryd rhan yn yr orymdaith flynyddol drwy ganol y ddinas i gofio am Ymgyrch y Siartwyr.
Mae Cwmni Theatr Tin Shed wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc o Ysgol Gynradd Maendy, Ysgol Gynradd St Gwynllyw, Ysgol Gynradd Crindau ac Ysgol Gynradd Llys Malpas er mwyn cynnal y digwyddiad ddydd Gwener, 4 Tachwedd.
Bydd y disgyblion yn dechrau ar eu taith o Eglwys Gadeiriol Casnewydd, St Gwynllyw, am 1pm ac yn teithio i lawr Stow Hill i Westgate Square ar gyfer yr arddangosiad y tu allan i Westgate Hotel gynt.
Bydd y plant yn actio rhannau’r Siartwyr, y lluoedd arfog, y dorf a gwleidyddion.
Bydd Arglwydd Faer ac Arglwydd Faeres Casnewydd, y Cynghorydd David Atwell a Mrs Carole Atwell, a Dirprwy Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Ray Truman, yn mynychu’r digwyddiad.
Bydd ffordd Stow Hill ar gau rhwng 12.30pm a 2.30pm.
Gwahoddir preswylwyr i alw heibio a chefnogi'r disgyblion ar y diwrnod.