Newyddion

Dathlu Calan Gaeaf yn ddiogel gartref

Wedi ei bostio ar Monday 26th October 2020

Mae gweithgareddau Calan Gaeaf traddodiadol, megis losin neu lanast, partïon a digwyddiadau eraill, yn achosi risg o ledaenu Covid-19 ymhellach ac wedi’u gwahardd o dan reolau cyfnod atal presennol Cymru.

Mae'r cyngor yn annog preswylwyr i roi'r gorau i weithgareddau traddodiadol Calan Gaeaf eleni drwy ddathlu'n ddiogel o'u cartrefi eu hunain a pheidio â chyfarfod ag unrhyw un, naill ai dan do neu'r tu allan, nad ydynt yn rhan o'u cartref.  

Mae'n anffodus bod cymaint o ddigwyddiadau wedi cael eu heffeithio gan y Coronafeirws eleni gan gynnwys Calan Gaeaf.  Mae cyfyngiadau’r cyfnod atal ar waith i helpu i gadw'r feirws dan reolaeth ac mae'n hanfodol bwysig dilyn y rheolau. 

Mae digon o ddewisiadau eraill i gadw pobl ifanc yn brysur – ac yn ddiogel – gartref. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cerfio pwmpen - beth am ddod o hyd i diwtorial ar-lein i gerfio'r bwmpen orau a’i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Cynnal parti Calan Gaeaf rhithwir.
  • Cael helfa drysor â thema calan gaeaf yn y cartref.
  • Gwylio ffilm Calan Gaeaf gyda'ch teulu.

Mae Heddlu Gwent wedi creu pecyn gweithgareddau y gellir ei lawrlwytho y gellir ei weld ar eu gwefan.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.