Newyddion

Rhagor o hunllefau ar y gweill yn Newport Escape Rooms

Wedi ei bostio ar Monday 31st July 2017

MAE symudiad cyfoes tebyg i un y Siartwyr yn corddi Casnewydd ac mae'r awdurdodau'n ceisio mynd i'r afael ag e.

  Byddwch chi a hyd at bump o ffrindiau mewn selar tywyll ac os nad ydych chi'n dod i ddeall ystyr y cliwiau ac yn dianc, gall unrhyw beth ddigwydd yn cynnwys wynebu'r heddwas arteithiol.

  Dyna'r cefndir yn The  Escape Rooms gwych Casnewydd, sydd newydd eu lansio gan chwaer a brawd: Elinor a David Daniel.

  Mae'r ddau a anwyd yng Nghasnewydd wedi trosi man a oedd yn segur gynt dan farchnad y ddinas yn fan adloniant cyfoes. Mae cefndir Elinor mewn drama yn ychwanegu elfen gyffrous i'r project, ac maen nhw'n talu sylw i bob manylyn dychrynllyd. Mae blogwyr yn canu clod yr ychwanegiad yma at arlwy adloniant Casnewydd ac yn dweud ei fod yn graff ac yn gosod y safon.

  Mae'r ymwelwyr mewn grwpiau o hyd at chwech ac yn gweithio fel tîm i geisio dianc. Mae'n rhaid iddyn nhw ddadansoddi'r cliwiau a dod o hyd i ffordd allan cyn pen awr neu bydd eu tynged yn druenus.

  Mae'r ymateb i'r atyniad thema arswyd wedi bod yn galonogol iawn ers ei agor ym mis Mai a'r bwriad nawr ydy symud i'r cam nesaf.

  "Rydyn ni nawr am ddatblygu dwy neu dair ystafell arall gyda braslun dianc gwahanol," dywedodd Elinor.

  Bydd y senarios newydd, sy'n gyfrinach gudd ar hyn o bryd, yn cyfeirio at hanes Casnewydd, sy'n bwysig i Elinor. "Rydyn ni wastad am gadw cysylltiad â gorffennol yr ardal i'n gwreiddio a'n gwneud yn fwy perthnasol."

  Mae Cyngor Dinas Casnewydd a rhaglen Kickstart wedi cynorthwyo'r fenter, ar y cyd â'r awdurdod ac is-gwmni Tata Steel, UK Steel Enterprise.

  Rhoddodd y rhaglen grant o £2000 i helpu'r project annibynnol i gychwyn.

  "Roedd yn gymorth ac ar y cyfan, cawson ni gymorth anferth i gychwyn y project," dywedodd Elinor. 

  Dywedodd Martin Palmer, swyddog gweithredol buddsoddi UK Steel Enterprise: "Mae The Escape Rooms yn ychwanegiad ardderchog i wella adloniant yng Nghasnewydd ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni'n gallu cynorthwyo trwy raglen Kickstart, yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd."

  Meddai'r Cynghorydd Jane Mudd, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Adfywio a Thai: "Mae'n wych gweld pobl ifanc yn sefydlu busnesau newydd a chyffrous yn y ddinas ac rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi gallu helpu The Escape Rooms. Mae'r fenter greadigol ac arloesol yn ddelfrydol ar gyfer Marchnad Casnewydd mewn ardal yng nghanol y ddinas sy'n dod yn fwy ac yn fwy byw wrth i waith adnewyddu barhau."

Diwedd Cysylltiadau Cyhoeddus Cyngor Dinas Casnewydd 01633 210461

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.