Newyddion

Cwmni bwyd unigryw yn dewis agor ei siop gyntaf ym Marchnad Casnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 9th December 2016
Sicily to Seattle Opening 1

Mae naws ryngwladol i’r busnes diweddaraf i agor ym Marchnad Casnewydd ac mae’n addo tynnu dŵr i’ch dannedd.

Mae Sicily to Seattle yn arbenigo mewn bwyd stryd llysieuol/figanaidd o Sisilia ac America ac mae bellach wedi agor siop ar lawr gwaelod Marchnad Casnewydd.

Bydd cwsmeriaid yn cael dewis bwyta i mewn neu fachu bwyd i fynd gyda dewis o brydau megis cŵn corn, byrgyrs, pasta, calzone ac arancini.

Roedd y partneriaid busnes, Karl Lovesey a Rama Ishaya yn rhedeg busnes symudol yn gwerthu bwyd mewn digwyddiadau, ond diolch i’r rhaglen Kickstart gan Gyngor Dinas Casnewydd ac is-gwmni Tata Steel, UK Steel Enterprise, maent bellach wedi sefydlu ym Marchnad Casnewydd.

Dywedodd Karl: “Mae’n anhygoel bod Casnewydd yn gallu cynnig y grant hwn i fusnesau newydd. Mae wedi cymryd baich ariannol anferth oddi arnom yn y cam cychwynnol hwn. Mae wedi rhoi teimlad o sicrwydd i ni sydd wedi rhoi'r gallu i ni ganolbwyntio ar agor a chychwyn masnachu.

“Er bod ein busnes yn un cwbl lysieuol/figanaidd, rydym yn gobeithio creu bwyd ardderchog y gall pawb ei fwynhau ac nid apelio at lysieuwyr a figaniaid yn unig. Felly dewch draw i Sicily to Seattle ym Marchnad Casnewydd am fwyd stryd arbennig.”

Aeth y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a’r Cynghorydd John Richards, Aelod Cabinet dros Adfywio a Buddsoddi i ymweld â Sicily to Seattle ar daith o amgylch busnesau yn y farchnad gan helpu gyda’r agoriad swyddogol.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: “Mae’n wych gweld busnesau newydd yn agor ym Marchnad Casnewydd ac mae'n arbennig o gyffrous gweld rhywbeth gwahanol ar gynnig. Mae ystod y nwyddau a gwasanaethau yn y farchnad yn tyfu ac rwy’n annog preswylwyr ac ymwelwyr i ddod draw i weld beth sydd ar gael.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Richards: “Rwy’n falch bod y cwmni wedi penderfynu ymgartrefu yng Nghasnewydd a’r farchnad. Mae’r grantiau yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fusnesau newydd ac mae’n wych ein bod ni ac UK Steel Enterprise wedi gallu helpu’r busnes cyffrous hwn i gychwyn.”

Dywedodd Glyn Thomas, Rheolwr Ardal Cymru ar gyfer UK Steel Enterprise: "Rydyn ni wrth ein boddau fod Sicily to Seattle wedi cymryd mantais o’r grant. Mae’n amlwg yn fusnes newydd arloesol a chyffrous a fydd yn rhoi dimensiwn newydd i’r profiad bwyta sydd ar gael yn y ddinas.”

Am ragor o wybodaeth am gefnogaeth i fusnesau yng Nghasnewydd, ewch i:

www.newport.gov.uk/business

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.