Newyddion

Y Ddinas Ddidwyll - Casnewydd yn diogelu cwsmeriaid a busnesau

Wedi ei bostio ar Wednesday 7th December 2016
Fake Free Newport launch - Cllr Bob Poole and supporting businesses - Dec 2016

Heddiw lansiodd Casnewydd ymgyrch i gadw’r ddinas yn rhydd rhag nwyddau a gwasanaethau ffug.

Bydd adran Safonau Masnach y cyngor yn gweithio gyda busnesau lleol i godi ymwybyddiaeth a rhwystro gwerthiant y nwyddau gwael ac anghyfreithlon hyn dan faner ymgyrch ‘Y Ddinas Ddidwyll’.

Nid yn unig y gall nwyddau ffug fod yn beryglus i’r defnyddiwr, cânt eu dosbarthu hefyd yn aml gan grwpiau troseddol cyfundrefnol ac unigolion sy’n cuddio’u helw rhag y llywodraeth. Caiff nwyddau o’r fath eu cynhyrchu weithiau mewn rhannau o’r byd lle mae’r gweithwyr yno yn wynebu amodau gwaith a thâl gwael a cham-fanteisio.

Caiff siopwyr sy’n ystyried prynu nwyddau ffug eu siarsio i feddwl ddwywaith a holi eu hunain:

•           A fydd y gwefrydd ffôn symudol rhad hwnnw yn mynd ar dân a pheryglu bywyd fy nheulu?

•           A oes cynhwysion niweidiol yn yr hylif wedi eillio neu’r persawr yna rydych ar fin ei roi ar eich corff fydd yn peri anafiadau i chi?

•           A yw’r tegan rydych ar fin ei roi i’ch plentyn yn cynnwys darnau mân peryglus neu gemegolion nas profwyd?

•           A gafodd y bag “designer” yna ei gynhyrchu gan blant mewn amodau uffernol?

•           A yw’r bobl werthodd yr holl nwyddau ffug yna i chi yn talu eu trethi fel pobl a busnesau gonest?

Mae gwerthiant nwyddau a gwasanaethau ffug yn costio miliynau i economi’r DU bob blwyddyn gan beryglu swyddi a bywoliaeth miloedd o weithwyr a pherchnogion busnes.

Mae nifer o brif fasnachwyr y ddinas eisoes wedi ymuno â’r ymgyrch ac yn arddangos sticeri ffenest ‘Dinas Ddidwyll’ er mwyn sicrhau cwsmeriaid bod eu nwyddau a’u gwasanaethau nhw yn rai didwyll.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd hefyd yn cymryd ei gyfrifoldeb i orfodi’r gyfraith o safbwynt nwyddau ffug o ddifri a bydd yn ymchwilio ac yn erlyn unigolion a masnachwyr sy’n torri’r gyfraith. Bydd busnesau sy’n ystyried buddsoddi yn yr ardal yn gwybod eu bod yn dod yn rhan o ddinas barchus ac fe gaiff siopwyr eu sicrhau y gallan nhw brynu a gwario yng Nghasnewydd yn hyderus.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Poole, Aelod Cabinet Cyngor Casnewydd dros Swyddogaethau Rheoleiddio: “Ar y cyd â busnesau didwyll y ddinas, rydym yn gwneud safiad cyhoeddus yn erbyn nwyddau ffug ac yn cyfleu neges glir fod Casnewydd yn ddinas ddidwyll.

“Gall nwyddau a gwasanaethau ffug ymddangos fel bargen, ond gallan nhw fod yn niweidiol iawn – i iechyd a diogelwch, i fusnesau didwyll ac i hawliau unigolion.

“Rwy’n annog pob busnes lleol i ymuno â ni yn ein hymgyrch ac i bobl gefnogi eu masnachwyr gonest.

Hefyd, os gwyddoch chi am unrhyw un yn gwerthu nwyddau ffug, rhowch wybod i’r cyngor ac fe ymchwiliwn ni.”

Os oes unrhyw wybodaeth gennych am werthiant nwyddau neu wasanaethau ffug gallwch ffonio ein llinell masnachu ffug 01633 235233 yn gyfrinachol.

Mae ymgyrch ‘Y Ddinas Ddidwyll’ hefyd wedi ei gefnogi gan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU a’r Grŵp Atal Nwyddau Ffug. Dywedodd Matt Cope, Dirprwy Gyfarwyddwr Gorfodi yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU: “Mae Casnewydd Di-dwyll yn derbyn cefnogaeth lawn gan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Mae gwerthu nwyddau ffug yn niweidio busnesau dilys a defnyddwyr – ni fyddwn yn eu goddef.

“Rydym yn croesawu'r gefnogaeth gan gymuned fusnes Casnewydd. Mae dull partneriaeth rhwng busnesau, llywodraeth a thimau gorfodi’r gyfraith yn helpu gwneud bywyd y bobl sy’n gwerthu nwyddau ffug yn eithriadol anodd.

“Dylid canmol Safonau Masnach Casnewydd am eu gwaith caled parhaol a’u hymrwymiad i amddiffyn defnyddwyr rhag nwyddau ffug.”

Mae’r busnesau yng Nghasnewydd sydd wedi ymuno eisoes yn cynnwys:

Macey Sports Ltd [Caerleon Road]

Cayzers Menswear [Chepstow Road]

Chessmen [Newport Retail Park]

The Perfume Shop [Newport Retail Park]

F.L. Wanger Opticians [Chepstow Road]

Smyths Toys [Mendelgief Retail Park]

The Lamb [Bridge Street]

Sports Direct.com [Commercial Street]

JD Sports Plc [Friars Walk]

The Wardrobe [Friars Street]

The Entertainer [Friars Walk]

Debenhams [Friars Walk]

WH Smith [Commercial Street]

Diverse Music [Charles Street]

The Potters [Upper Dock Street]

Camera Centre UK [Charles Street]

Boots [Commercial Street]

Freestyle Skate [Newport Arcade]

Game [Commercial Street]

Boots [Newport Retail Park]

Vision Express [Newport Retail Park]

Wildings Ltd [Commercial Street]

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.