Newyddion

Cromwell Road

Wedi ei bostio ar Thursday 9th September 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cau Cromwell Road dros dro rhwng Liscombe Street a Fairfax Road i draffig drwodd oherwydd gwagle yn y ffordd.

Mae dargyfeiriadau wedi'u rhoi ar waith trwy'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol a Nash Road i'r de, a thrwy Chepstow Road i'r gogledd.

Gall trigolion Liscombe Street barhau i gael mynediad i'w stryd, ond dim ond o ben Cromwell Road sy’n agos at Heol y Gorfforaeth. Rhaid i drigolion Fairfax Road ddefnyddio’r pen sy’n agos at Somerton Road. Mae'r llwybr troed yn parhau i fod yn ddiogel i'w ddefnyddio.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i benderfynu ar achos y gwagle a datrys y sefyllfa cyn gynted ag y gallwn.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach am y sefyllfa maes o law.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.