Newyddion

Y Cyngor yn saliwtio arwyr 999

Wedi ei bostio ar Thursday 9th September 2021

Cododd Cyngor Dinas Casnewydd faner y gwasanaethau brys heddiw (dydd Iau 9 Medi) i gydnabod dewrder ac anhunanoldeb gweithwyr 999.

Cynhaliwyd gwasanaeth y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig dan arweiniad y Parchedig Keith Beardmore ac roedd gweithwyr brys yn ogystal â Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Williams a chynrychiolwyr eraill y cyngor.

Sefydlwyd diwrnod y gwasanaethau brys yn 2016 i ddangos cefnogaeth i'r GIG a'r pum prif wasanaeth brys arall - yr heddlu, tân ac achub, ambiwlans, gwylwyr y glannau a badau achub, a chwilio ac achub ar y tir.

Mae dros 7,500 o weithwyr brys wedi marw wrth wneud eu dyletswydd dros y 200 mlynedd diwethaf. Heddiw, mae bron i ddwy filiwn o bobl yn gweithio yn y gwasanaethau gan gynnwys 250,000 o ymatebwyr cyntaf, y mae llawer ohonynt yn wirfoddolwyr.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae llawer o straeon personol am ddewrder ac anhunanoldeb y gall y sefydliadau brys sy'n gwasanaethu ac yn amddiffyn ein cymunedau eu hadrodd.

"Eleni, am y tro cyntaf, rydym yn manteisio ar y cyfle i ymuno â'r gydnabyddiaeth swyddogol o weithredoedd amhrisiadwy ac anhunanol ein harwyr gwasanaethau brys. 

"Mae'r pandemig wedi dangos cymaint maen nhw wir yn haeddu ein diolchgarwch a'n hedmygedd. Rydym yn edmygu'r rhai sydd wedi gweithio mewn amgylchiadau anodd, a hyd yn oed brawychus, i ofalu ac achub eraill.

"Fel cyngor, rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, a heddiw rydym yn

dymuno cofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau, ond hefyd yn meddwl am y rhai sy'n

ymgymryd â'r heriau hollbwysig hyn bob dydd."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.