Gwaith tîm yn allweddol i Maethu Casnewydd
Wedi ei bostio ar Wednesday 12th May 2021
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Dreigiau'r ddinas i nodi Pythefnos Gofal Maeth.
Yn ystod tymor 2021/22, bydd baner yn hyrwyddo Maethu Casnewydd y cyngor yn cael ei harddangos yn Rodney Parade.
A bydd y Dreigiau hefyd yn rhoi tocynnau i gêmau, y gall ein gofalwyr maeth a'u teuluoedd eu defnyddio.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Rydyn ni eisiau i bobl ymuno â thîm Maethu Casnewydd a'n rhwydwaith anhygoel o ofalwyr i roi cartref diogel a hapus i blant Casnewydd.
"Mae gennym ofalwyr o ystod eang o gefndiroedd sy'n rhannu ein nod gyffredin - sef rhoi plant a phobl ifanc wrth galon eu bywydau. Mae llawer o wahanol fathau o ofal maeth ac mae'r tîm yn hapus i drafod yr opsiynau i gyd gydag unrhyw un sydd â diddordeb.
"Mae amrywiaeth fawr o fuddion ar gael i'n gofalwyr maeth gan gynnwys hyfforddiant a lwfansau ond rydym hefyd yn falch o'r cymorth ymroddgar mae ein gweithwyr cymdeithasol proffesiynol yn ei roi i'r gofalwyr a'r plant.
"Mae paru â'r Dreigiau yn rhoi cyfle gwych i ni godi ymwybyddiaeth ymhlith nid yn unig eu cefnogwyr ond hefyd ymhlith defnyddwyr eraill Rodney Parade.
"Ond does dim rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu aros i'r tymor rygbi ddechrau. Gall ein tîm cyfeillgar ateb eich holl gwestiynau a siarad â chi am y broses o ddod yn un o'n gofalwyr maeth gwerthfawr. Felly codwch y ffôn neu ewch i'r wefan i gael gwybod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn,"
Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu ac i ddangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Eleni, mae'n rhedeg o heddiw tan 23 Mai a'r thema yw #PamRydymYnGofalu
Ewch i www.newport.gov.uk/fostering neu ffoniwch 01633 210272