Hwb i'r Bont Gludo gyda grant Llywodraeth Cymru
Wedi ei bostio ar Thursday 18th March 2021
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi llwyddo i sicrhau grant o £1.5m gan Lywodraeth Cymru i helpu i ariannu prosiect trawsnewid y Bont Gludo.
Mae'r grant, a sicrhawyd gan Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth y llywodraeth, yn ategu'r grant blaenorol o £8.75m a ddyfarnwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a'r £1m o gyllid cyfalaf y mae'r cyngor hefyd wedi'i ymrwymo i'r prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau'r grant hwn gan Lywodraeth Cymru, sy'n hwb mawr i'r cyllid presennol sydd gennym ar gyfer y prosiect trawsnewid.
Mae ein cais llwyddiannus yn dangos pwysigrwydd y Bont nid yn unig i ddinas Casnewydd, ond i'r rhanbarth ehangach, o ran twristiaeth a threftadaeth, a diolchwn i'r llywodraeth am gydnabod hyn drwy'r dyfarniad grant.
Bydd y gwaith yn dechrau ar y bont yn ystod y misoedd nesaf, gyda'r safle ar gau i ymwelwyr tra bydd hyn yn cael ei wneud. Mae disgwyl i'r Bont a'r ganolfan ymwelwyr newydd ailagor yng ngwanwyn 2023.
Bydd rhaglen ymgysylltu yn cynnig cyfle i breswylwyr fod yn rhan o'r prosiect ailddatblygu tra bydd y bont ar gau, a gallwch ddilyn y bont ar Facebook a Twitter i gael diweddariadau rheolaidd yn ystod y prosiect.