Newyddion

Cartref preswyl newydd gam yn nes

Wedi ei bostio ar Monday 22nd March 2021
new residential home

Mae gwaith wedi dechrau ar safle cartref preswyl newydd yng Nghasnewydd a fydd yn darparu gofal arbenigol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc.

Dyfarnwyd cyllid cyfalaf gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect a gefnogir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent.

Hwn fydd y trydydd cartref a grëwyd yng Nghasnewydd fel rhan o Brosiect Perthyn, ei raglen uchelgeisiol i ddod â'n plant yn ôl i'r ddinas lle gallant dderbyn safonau gofal gwell a bod yn agosach at eu teuluoedd.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cartref yn gallu darparu llety priodol ar gyfer grŵp bach o blant a staff.

Yn ogystal â phobl ifanc o Gasnewydd, gallai cynghorau eraill yng Ngwent ddefnyddio'r cartref ar gyfer eu plant ag anghenion cymhleth.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau cymdeithasol: "Mae ein dau gartref plant cyntaf wedi bod yn hynod lwyddiannus. 

"Yn ogystal â dod â phlant yn ôl i Gasnewydd o leoliadau y tu allan i'r sir a lleoliadau drud iawn, mae rhai wedi gallu symud yn ôl i fyw gyda'u teuluoedd ar ôl cael y gefnogaeth pontio cywir yn y cartrefi.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru a CGC am ein helpu i ddarparu'r gofal cywir yn y lle iawn ar yr adeg iawn."

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol: "Mae'n hanfodol bod llety, gofal a chymorth o ansawdd uchel ar gael i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth pan fydd ei angen arnynt. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o gydweithio i alluogi plant sy'n agored i niwed i gael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt yn y gymuned ac yn agos at adref. Edrychaf ymlaen at gwblhau'r cynllun"

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.