Gŵyl y Gymanwlad i'w nodi yn y Ganolfan Ddinesig
Wedi ei bostio ar Monday 8th March 2021
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn codi baner y Gymanwlad yn y Ganolfan Ddinesig heddiw i nodi Gŵyl y Gymanwlad 2021.
Mae Gŵyl y Gymanwlad yn ddathliad o waith Cymanwlad y Cenhedloedd, cymdeithas wirfoddol sy'n cynnwys 54 o wledydd sy'n gartref i tua 2.4 biliwn o bobl.
Bydd thema Gŵyl y Gymanwlad eleni, Cyflawni Dyfodol Cyffredin: Cysylltu, Arloesi, Trawsnewid, yn tynnu sylw at y gwaith y mae aelod-wledydd yn ei wneud i helpu'r Gymanwlad i gyflawni rhai o'i nodau mwyaf, fel diogelu adnoddau naturiol a hybu masnach.
Yn unol â'r rheoliadau covid-19 cenedlaethol presennol, ni fydd y cyngor yn cynnal seremoni ffurfiol i nodi'r achlysur. Yn hytrach, bydd Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken CBE, yn cyflwyno neges wedi'i recordio ymlaen llaw y gellir ei gweld ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Rwy'n falch ein bod yn gallu nodi Gŵyl y Gymanwlad heddiw. Er na allwn gynnal seremoni ffurfiol, mae'n briodol i ni gydnabod gwaith cenhedloedd ar draws y Gymanwlad, a'u hymrwymiad i ddemocratiaeth, datblygiad a pharch at amrywiaeth.
"Mae'n briodol hefyd, wrth i Ŵyl y Gymanwlad gyd-daro â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ein bod yn cydnabod y menywod sy'n arwain y gwaith i adeiladu dyfodol gwell, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â helpu eu cymunedau i wella o effeithiau Covid-19."
Ychwanegodd y Cynghorydd Tom Suller, maer Casnewydd: "Mae'r Gymanwlad yn deulu sydd wedi'i adeiladu o amgylch ein gwerthoedd a'n hanes cyffredin. Mae'n bwysig i Gasnewydd gydnabod hyn, a thrwy godi'r faner rydym yn ymuno â'n chwaer drefi a dinasoedd ledled y byd i wneud hynny."
I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl y Gymanwlad, a gwaith y Gymanwlad, ewch i
https://thecommonwealth.org/.