Newyddion

Ailstrwythuro Uwch Arweinwyr

Wedi ei bostio ar Wednesday 30th June 2021

Mae'r Cyngor Llawn wedi ystyried a chefnogi adolygiad o uwch dîm arwain y cyngor.

Ei nod yw creu cyngor sy'n addas ar gyfer y dyfodol, sydd yn y sefyllfa orau i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd allanol a mewnol yn gyflymach, sy’n gallu mynd i'r afael â'r heriau a manteisio ar gyfleoedd dinas sy'n tyfu, ac sydd bob amser yn rhoi dinas Casnewydd a'n pobl yn gyntaf.

Bydd yn cefnogi arloesedd, yn canolbwyntio ar atebion, a bydd yn galluogi’r cyngor i wneud mwy dros y ddinas a'r trigolion, gan roi mwy o bwyslais ar atal ac ymyrryd yn gynnar, addysg, adfywio, cymunedau a newid yn yr hinsawdd.

Dyma gam un adolygiad ehangach a fydd nid yn unig yn creu’r gallu i arwain, ond a fydd yn sicrhau'r sgiliau priodol ar bob lefel o'r sefydliad.  

Mae gan Gasnewydd un o'r poblogaethau preswyl mwyaf ac sy'n tyfu gyflymaf ledled holl ardaloedd awdurdodau lleol Cymru, ar ôl cynyddu 6% ers 2011. 

Fodd bynnag, er bod ein cymunedau wedi tyfu, mae gweithlu'r cyngor wedi gostwng yn sylweddol.  Yn gyffredinol, mae nifer y staff wedi gostwng bron i un rhan o bump a'r capasiti arwain uchaf gan tua 40 y cant.

Fel cyngor a dinas rydym bellach yn wynebu heriau na allai unrhyw un fod wedi'u rhagweld pan gynlluniwyd yr uwch strwythur arweinyddiaeth presennol. Mae pandemig Covid 19 ac argyfwng hinsawdd wedi datgelu anghydraddoldebau sylweddol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Mae rôl newidiol gwasanaethau cyhoeddus, maint ein newid demograffig a'n datblygiadau technolegol wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid i'r cyngor newid os ydym am gyflawni blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a galluogi ein cymunedau i ffynnu. 

Cydnabyddir hefyd na allwn weithio ar ein pennau ein hunain fel sefydliad – mae angen i ni weithio gyda phartneriaid i ddarparu'r gorau i'r ddinas. Mae gallu arwain cryf a dylanwad lefel uwch yn hanfodol i yrru partneriaethau o'r fath yn eu blaen.

Adlewyrchir ein cryfder economaidd cynyddol a'n safle fel dinas allweddol yn y DU yn ein hymwneud ag agendâu polisi rhanbarthol a chenedlaethol fel Porth y Gorllewin, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Unwaith eto, mae hyn yn gofyn am gynrychiolaeth briodol ar y lefel gywir er mwyn parhau â'n llwybr llwyddiannus at adfywio.

Cefnogwyd yr adolygiad gan CLlLC ac mae'n cynnig buddsoddiad cynaliadwy sy'n dangos buddsoddiad priodol i sicrhau manteision sylweddol i'r ddinas yn y tymor canolig a'r hirdymor.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.