Canolfan ailgylchu gwastraff y cartref ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol
Wedi ei bostio ar Monday 21st June 2021
Mae canolfan ailgylchu gwastraff y cartref Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawr.
Mae'r ganolfan yn un o dri ar draws y Deyrnas Gyfunol, a'r unig un o Gymru, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr safle amwynder dinesig y flwyddyn yn y Gwobrau Rhagoriaeth mewn Ailgylchu a Rheoli Gwastraff eleni.
Mae'r enwebiad yn dilyn blwyddyn brysur i'r ganolfan, sydd wedi elwa o waith adnewyddu ar y safle, gwell mesurau gwahanu gwastraff a system archebu newydd yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
Mae'r newidiadau hyn wedi cyfrannu at gynnydd yn y gyfradd ailgylchu yn y ganolfan, o 65% yn 2019/20 i dros 90% ar gyfer 2020/21.
Wrth sôn yn ystod ymweliad â'r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref gyda Ruth Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor: "Mae'n wych gweld ein canolfan ailgylchu gwastraff y cartref yn cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol.
"Mae'r newidiadau a wnaethom i'r safle y llynedd wedi gwella profiad ymwelwyr, ac mae ein cyfradd ailgylchu uwch yn dangos bod y newidiadau hynny wedi cael effaith gadarnhaol barhaol.
"Mae wedi bod yn wych dangos Ruth o amgylch y ganolfan heddiw: gobeithio’r tro nesaf y bydd hi'n ymweld bydd gennym wobr i'w harddangos!"
Dywedodd Ruth Jones AS: "Roedd hi mor dda gallu cwrdd â dirprwy arweinydd y Cyngor, Roger Jeavons, a'r staff yn gweithio mor galed yn y ganolfan.
"Roedd yn wych gweld y ffyrdd newydd o weithio, sy'n cadw'r cyhoedd a staff yn ddiogel ac yn dal i gynyddu cyfraddau ailgylchu.
"Roedden nhw'n ffyrdd arloesol iawn o weithio, ac roedd yn wych gweld y tîm yn gweithio mor dda gyda'i gilydd!"
Cynhelir y seremoni wobrwyo Ddydd Mercher, 21 Gorffennaf. Ceir mwy o fanylion ar wefan y gwobrau.