Newyddion

Diweddariad ar Ysgol Gynradd Sant Andrew

Wedi ei bostio ar Friday 9th July 2021

Bydd disgyblion iau a staff o Ysgol Gynradd Sant Andrew yn aros yng Nghanolfan Gyswllt Casnewydd Fyw am y ddwy flynedd nesaf.

Cafodd adeilad cyfnod allweddol dau Corporation Road ei gau'n gynharach eleni ar ôl darganfod problem  strwythurol sylweddol.

Datgelodd ymchwiliadau cychwynnol fod y broblem yn fwy eang nag oedden ni wedi ei obeithio ac mae gwaith yn parhau i gael dealltwriaeth gyflawn o'r sefyllfa yn ogystal â dod o hyd i atebion hirdymor posibl.

Yn dilyn cau'r ysgol yn y gwanwyn, symudodd disgyblion blwyddyn chwech i Ysgol Uwchradd Llyswyry gyda gweddill yr ysgol iau yn adleoli i'r Ganolfan Gyswllt.

O fis Medi, bydd pob disgybl a phob aelod o staff cyfnod allweddol dau gyda'i gilydd yng Nghanolfan Gyswllt Casnewydd Fyw. Darperir trafnidiaeth i safle Sant Andrew ac oddi yno bob dydd.

Tra bod yr adeilad yn wag, mae gwaith atgyweirio wedi cael ei wneud i'r gwaith maen a disgwylir i'r sgaffaldiau gael eu tynnu i lawr yn yr haf. Nid yw'r gwaith hwn yn gysylltiedig â'r broblem strwythurol a arweiniodd at gau'r adeilad.

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg yng Nghyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Deb Davies: "Er nad oedd unrhyw un eisiau cau'r adeilad, mae'r ysgol, staff addysg a phartneriaid wedi ymateb yn wych i'r her.

"Mae'r pennaeth, ei staff, ei disgyblion a'i rhieni wedi bod yn anhygoel. Mae wedi bod yn wych gweld pa mor dda y maent wedi addasu i'w cartref newydd ac mae'n profi nad adeilad yn unig yw ysgol, mae'n gymuned.

"Hoffwn ddiolch i Casnewydd Fyw a'i fwrdd am ddarparu'r Ganolfan Gyswllt sy'n gartref diogel a phriodol ar gyfer disgyblion a staff cyfnod allweddol dau.

"Rhaid diolch hefyd i Ysgol Uwchradd Llyswyry am ganiatáu i grŵp blwyddyn chwech ddefnyddio ystafelloedd dosbarth yn yr ysgol nes y gellid gwneud trefniadau i gadw'r holl gyfnod allweddol dau gyda'i gilydd ar un safle.

"Rhaid talu teyrnged i staff yr ysgol a weithiodd mor galed i sicrhau bod y disgyblion yn teimlo'n gyffyrddus yn eu cartref newydd a bod ganddynt amgylchedd dysgu gwych.

"Rydym i gyd yn gwerthfawrogi dealltwriaeth rhieni mewn perthynas â'r sefyllfa ddigynsail hon ac rydym am eu sicrhau bod pawb wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb hirdymor."

Dywedodd y pennaeth Jo Giles: "Rydym wedi sicrhau bod yr amgylchedd yn gyfarwydd i'r plant drwy drosglwyddo dodrefn, offer a deunyddiau i'w cartref newydd. Rwyf mor falch o'm staff, fy mhlant a phawb sydd wedi helpu i sicrhau bod y broses bontio mor llyfn â phosibl.

"Yn amlwg roedden ni'n gobeithio bod yn ôl ar safle Sant Andrew cyn gynted â phosib ond rydyn ni'n cydnabod mai diogelwch yw'r flaenoriaeth. Rydym yn ddiolchgar i Casnewydd Fyw am ganiatáu i ni ddefnyddio'r Ganolfan Gyswllt gan ei bod yn bodloni ein gofynion, yn cadw plant cyfnod allweddol dau gyda'i gilydd ac yn golygu y gall eu haddysg barhau'n ddi-dor am y ddwy flynedd nesaf."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.