Newyddion

Uned brofi newydd Covid-19 – Caerllion

Wedi ei bostio ar Friday 2nd July 2021

Bydd uned brofi symudol yng Nghaerllion am y pythefnos nesaf:

Maes Parcio Caerllion

Cold Bath Road

Caerllion

Casnewydd 

NP18 1NF

Ar agor o ddydd Sadwrn 3 i ddydd Gwener 16 Gorffennaf (saith diwrnod yr wythnos), rhwng 09:30-17:00

 

I drefnu prawf ffoniwch 119 neu ewch i www.llyw.cymru

 

Er bod nifer yr achosion o Covid 19 yn isel ledled Cymru, mae'r feirws yn ein cymunedau o hyd

Pa brawf ddylwn i ei gael?

Os yw unrhyw un yn eich cartref yn arddangos unrhyw symptomau neu'n teimlo'n sâl yn gyffredinol, dylech drefnu prawf PCR yn un o'r safleoedd profi swyddogol. Mae profion PCR ar gael yng Nghaerllion a sawl lleoliad arall ar draws y ddinas.

I drefnu prawf ffoniwch 119 neu ewch i www.llyw.cymru

Mae’r profion llif unffordd, y gellir eu cymryd gartref, ar gyfer pobl heb symptomau yn unig. Mae’r profion hyn ar gyfer y rheiny y mae angen iddynt fynychu man gwaith neu addysg uwchradd, nid plant ysgol gynradd neu blant oedran meithrin.

Pam mae angen i chi ynysu

Er mwyn atal lledaeniad pellach, mae'n bwysig iawn eich bod yn dilyn y rheolau hunanynysu pan fydd angen. Mae hyn yn lleihau'n sylweddol y siawns y byddwch yn trosglwyddo'r feirws i rywun arall.

Mae hunanynysu yn golygu nad ydych yn gadael y tŷ. Mae hyn yn cynnwys peidio ag ymweld â theulu, siopau na mannau gwaith neu gymdeithasu mewn partïon neu ddigwyddiadau cysgu dros nos.

Mae angen i berson hunanynysu ar unwaith os oes ganddo symptomau, os yw’n trefnu prawf, os yw wedi cael canlyniad prawf positif, os yw wedi ei nodi fel cyswllt neu wedi cael cyfarwyddwyd gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (POD) GIG Cymru i hunanynysu. Efallai y bydd hefyd angen i blentyn hunanynysu os canfyddir achos positif yn ei swigod/dosbarth ysgol. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.

Os ydych wedi cael eich brechu rhag y coronafeirws ond bod gennych symptomau neu os dywedwyd wrthych i hunanynysu mae'n rhaid i chi hunanynysu o hyd.

I gael mwy o wybodaeth ewch i www.llyw.cymru/hunanynysu

Sut mae olrhain cysylltiadau’n gweithio

Os bydd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn cysylltu â chi, mae’n bwysig eich bod yn onest am y bobl rydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Ei flaenoriaeth yw peidio â chosbi unrhyw un, ond atal y feirws rhag lledaenu ymhellach a pheryglu bywydau ein ffrindiau a'n teulu mwy agored i niwed.

Mae cyfyngiadau ar waith o hyd i helpu i'n cadw'n ddiogel

Mae’r coronafeirws yn ein cymunedau o hyd. Mae nifer fawr o bobl heb eu brechu'n llawn eto, felly mae'n hanfodol bod pobl yn parhau i gadw pellter cymdeithasol, yn gwisgo gorchuddion wyneb pan fyddant mewn mannau dan do, ac yn golchi dwylo'n rheolaidd. Bydd y camau hyn yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Mae cyfyngiadau'n berthnasol o hyd, yn enwedig o ran cyfarfod dan do – i weld y wybodaeth ddiweddaraf ewch i www.llyw.cymru/coronafeirws

Diolch am helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.