Newyddion

Y ddinas i elwa o 230 o finiau sbwriel ychwanegol

Wedi ei bostio ar Friday 9th July 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu gosod 230 o finiau sbwriel newydd arall ar draws y ddinas.

Mae'r symudiad yn rhan o ymrwymiad y cyngor i gynyddu hyd yn oed ymhellach ar y ddarpariaeth o ran biniau a lleihau lefelau sbwriel ar ein strydoedd dros y blynyddoedd nesaf.

Gosodwyd 40 o finiau fis diwethaf, gyda 190 arall wedi'u cynllunio. 

Mae hyn yn cynnwys 40 o finiau a fydd yn cael eu gosod ochr yn ochr â llochesi bws newydd sbon. 

Bydd y rhan fwyaf o finiau'n cael eu rhoi mewn safleoedd newydd ar draws y ddinas.  Bydd lleiafrif ohonynt yn disodli biniau llai yn uniongyrchol er mwyn cynyddu capasiti. Caiff y biniau llai hyn wedyn eu hadleoli i ardaloedd eraill ledled Casnewydd.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y Cyngor, "Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi'r cynnydd hwn yn nifer y biniau sydd ar y strydoedd.

"Rydym yn gwybod bod strydoedd glân yn flaenoriaeth i'n trigolion. Rydym yn gweithio i gyflawni'r flaenoriaeth honno, a bydd hyn yn golygu cyfanswm o dros 300 bin sbwriel newydd yn y ddinas yn ystod y deuddeng mis diwethaf."

Penderfynwyd ar leoliadau'r biniau hyn drwy ymgynghori â grwpiau casglu sbwriel gwirfoddol lleol, ceisiadau gan y cyhoedd a phrofiad ein tîm glanhau strydoedd, sydd wedi gwneud y gwaith gosod.

Gofynnwn i'r cyhoedd ddefnyddio'r biniau hyn yn gyfrifol ac atgoffwn drigolion na ddylid eu defnyddio i waredu gwastraff y cartref.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.