Newyddion

Gwahodd plant i ymuno ag Arwyr y Byd Gwyllt yn llyfrgelloedd Casnewydd yr haf hwn

Wedi ei bostio ar Friday 9th July 2021

Mae llyfrgelloedd Casnewydd yn galw ar blant i ymuno â Her Ddarllen yr Haf 2021.

Y thema ar gyfer eleni yw Arwyr y Byd Gwyllt a’r her i blant 4 i 11 oed yw benthyca a darllen unrhyw chwe llyfr llyfrgell dros yr haf. 

Gall plant ddod yn Arwr y Byd Gwyllt a darganfod sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth i'r lle maen nhw’n byw ynddo.   Bob tro y byddan nhw’n darllen llyfr llyfrgell ar gyfer yr her, byddan nhw’n un cam yn nes at ddatrys y problemau amgylcheddol yn Wilderville ac yn helpu i'w wneud yn lle gwell a gwyrddach i fyw ynddo!

I gymryd rhan, gall plant gofrestru yn eu llyfrgell agosaf, lle byddan nhw’n derbyn ffolder casglwr i gadw cofnod o'u taith yn ystod her ddarllen yr haf.

Bydd Arwyr y Byd Gwyllt yn lansio mewn llyfrgelloedd ledled Casnewydd ar 10 Gorffennaf gan barhau tan 25 Medi. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i newport.gov.uk/llyfrgelloedd

More Information