Newyddion

Canolfannau prawf Covid-19: diweddariad

Wedi ei bostio ar Thursday 14th January 2021

Mae Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn parhau i weithredu unedau profi Covid-19 symudol ychwanegol yr wythnos nesaf yn ardaloedd Liswerry a Tŷ-du yng Nghasnewydd.

Os oes gennych unrhyw symptomau o’r Coronafeirws (Covid-19) – peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a/neu arogl, gofynnwch am brawf cyn gynted â phosibl.

Ffoniwch 119 neu ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test 

Os oes gennych symptomau, dylech chi ac unrhyw aelodau o'r cartref ynysu ar unwaith.  Dylai eich cartref cyfan barhau i ynysu nes y daw canlyniad y prawf i law. Os yw'r prawf yn bositif, dylai holl aelodau'r cartref a chysylltiadau agos barhau i ynysu am 10 diwrnod yn unol â'r canllawiau cyfredol.

Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith.

Lleoliadau ac amserau agor

Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Maes Parcio Ganolfan Tenis a Pwll Nofio, NP19 4RA

Dydd Llun 18 Ionawr: 09:00-16:00

Dydd Mawrth 19 Ionawr: 09:00-16:00

Dydd Mercher 20 Ionawr: 09:00-16:00

Dydd Iau 21 Ionawr: 09:00-16:00

Canolfan Rivermede, Fucia Way, Ty-du, Casnewydd, NP10 9LZ

Dydd Gwener 22 Ionawr:   09:00-16:00

Dydd Sadwrn 23 Ionawr:  09:00-16:00

Dydd Sul 24 Ionawr:  09:00-16:00

Dydd Llun 25 Ionawr: 09:00-16:00

  • Dylech gael prawf hyd yn oed os yw eich symptomau'n ysgafn iawn
  • Gwneir y prawf mewn 5 munud
  • Ar gyfer trigolion Casnewydd yn unig  Dewch ag ID a thystiolaeth o’ch cyfeiriad gyda chi
  • Gwisgwch orchudd wyneb ar y ffordd i'ch prawf ac oddi yno
  • Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau neu leoedd eraill ar y ffordd i’ch prawf neu oddi yno
  • Dylech ymbellhau’n gymdeithasol gan sicrhau bod 2 fetr rhyngoch chi ac eraill
  • Cofiwch, os oes gennych unrhyw symptomau o’r Coronafeirws, rhaid i chi a'ch aelwyd gyfan hunanynysu gartref nes i chi gael canlyniadau eich prawf. Peidiwch â mynd i'r gwaith, peidiwch ag anfon eich plant i'r ysgol, peidiwch â derbyn ymwelwyr i’r cartref a pheidiwch ag ymweld ag eraill. Arhoswch gartref hyd nes y bydd canlyniad eich prawf yn dod i law.
  • Mae mesurau llym ar waith i'ch amddiffyn chi a'n staff ar y safle
  • Hyd yn oed os cewch ganlyniad negatif, mae Cymru bellach ar rybudd lefel 4 gyda chyfyngiadau aros gartref ar waith

I drefnu prawf drwy ffenestr y car, neu i bobl sy'n byw y tu allan i Gasnewydd, ffoniwch 119 neu ewch i www.gov.uk/get-coronavirus-test 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.