Newyddion

Casnewydd yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost

Wedi ei bostio ar Thursday 21st January 2021

Caiff clocdwr Canolfan Ddinesig Casnewydd ei oleuo'n borffor ar 27 Ionawr i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost wrth i ni gofio dioddefwyr hil-laddiad â difrifoldeb priodol.

Mewn blwyddyn pan nad oes modd i bobl goffáu'r diwrnod trwy ddod ynghyd, mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn gofyn i bobl Oleuo'r Tywyllwch.

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn ymuno â sefydliadau eraill wrth oleuo adeilad cyhoeddus ac mae aelodau'r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i roi golau yn y ffenestr am 8pm ar y dydd.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor:  "Ar 27 Ionawr, bydd pobl ledled y byd yn cofio'r rhai a fu'n ddioddefwyr hil-laddiad - y chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn yr Holocost, y miliynau eraill a laddwyd o dan erledigaeth y Natsïaid a digwyddiadau erchyll eraill megis y rhai yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia-Herzegovina a Darfur.

"Rydym hefyd yn dwyn tystiolaeth am y rhai a ddioddefodd ac a oroesodd ond y byddai eu bywydau wedi newid am byth o ganlyniad i'r profiadau hynny.

"Nid am y gorffennol yn unig mae hyn, rhaid i ni herio'r rhagfarn a'r iaith casineb sy'n bodoli heddiw, hyd yn oed ar garreg ein drws. Rydym am fyd mwy diogel i bawb.

"Mae Diwrnod Cofio'r Holocost hefyd yn gyfle i ddathlu amrywiaeth ein cymunedau. Rwy'n falch y byddwn yn taflu goleuni ar glocdwr y Ganolfan Ddinesig ac rwy'n gobeithio y bydd pobl eraill yn cymryd rhan trwy roi golau yn eu ffenestri eu hunain ar 27 Ionawr."

Am y tro cyntaf, caiff seremoni genedlaethol Diwrnod Cofio'r Holocost ei ffrydio ar-lein rhwng 7pm ac 8pm ar 27 Ionawr.

Gall aelodau'r cyhoedd gofrestru i dderbyn cyfarwyddiadau a negeseuon atgoffa ar gyfer gwylio'r seremoni yn hmdt.geteventaccess.com/registration

Bydd yr eiliad o Oleuo'r Tywyllwch ledled y wlad yn dod ar ddiwedd y seremoni.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.